'Fe ganodd hyd y diwedd': Teyrnged i aelod o gôr meibion o'r gogledd fu'n aelod am 66 mlynedd
Mae teyrnged wedi ei rhoi i aelod hiraf un o gorau'r gogledd oedd wedi bod yn aelod am 66 o flynyddoedd, yn dilyn ei farwolaeth.
Fe wnaeth Ednyfed Williams ymuno gyda Chôr Trelawnyd yn Hydref 1957 ac "fe ganodd hyd y diwedd" meddai neges ar dudalen Facebook y côr.
"Wythnos ynghynt fe ganodd gyda'r Côr yng Nghyngerdd Gwyl Dewi ar Fawrth 2 yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy.
"Ar ôl syrthio adref a'i gludo i'r ysbyty roedd ar delerau da iawn gyda'r nyrsys oedd yn gweini arno. Roedd wrth ei fodd yn cyflwyno'r diwylliant a cherddorieth Gymreig.
"Bu yn fentor i lawer o gerddorion ifanc newydd i'r Côr. Roedd yn un o'r aelodau ffyddflonaf a'r mwyaf ymroddgar. Oherwydd ei frwdfrydedd roedd yn un o'r cyntaf i gyrraedd y rihyrsal ar nos Fawrth. Mwynhaodd gyfeillgarwch a chwmniaeth bywyd y Côr, ac ar ôl colli ei annwyl wraig Eirlys yn 2009, bu'r Côr yn gefn mawr iddo."
Ychwanegodd y datganiad: "Roedd yn storiwr o fri ac fe fu'n cyflwyno cyngherddau ar draws gwlad a thu hwnt gyda'r Côr am flynyddoedd lawer. Does dim dwywaith fe gollwn y llais bâs soniarus a'r hiwmor direidus.
"Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf i'w blant, Delyth, Meredydd a Dylan a'u teuluoedd.
"Fe erys ymrwymiad a chariad Ednyfed tuag at Gôr Meibion Trelawnyd yn hir iawn yn y cof. Cysga'n dawel hen ffrind."