Newyddion S4C

Beirniadu Arglwydd Ceidwadol am honni bod ‘ffasgaeth ieithyddol bron’ yng Nghymru

14/03/2024
Yr Arglwydd Moylan

Mae Arglwydd Ceidwadol wedi ei feirniadu wedi iddo honni bod siaradwyr Cymraeg yn gyfrifol am “ffasgaeth ieithyddol bron” yng Nghymru.

Fe wnaeth yr Arglwydd Moylan, sy’n gyn-ymgynghorydd i Boris Johnson, y sylwadau yn Nhŷ’r Arglwyddi ddydd Iau.

Mewn dadl ar bwnc yr undeb dywedodd bod iaith yn “arf i hybu ymdeimlad cenedlaetholgar”.

“Pan ydw i’n edrych ar Gymru rydw i’n gweld y ffasgiaeth ieithyddol bron sy’n bodoli bellach mewn rhannau ohoni,” meddai.

“Rwy’n bryderus iawn y byddwn yn cael ein hunain, ar ryw achlysur yn y dyfodol, mewn sefyllfa yn debyg iawn i'r Alban yn 2014.

“Bryd hynny, hanner ffordd drwy ymgyrch y refferendwm, sylweddolom y gallen ni golli refferendwm ar yr undeb, a’n bod ni wedi colli cyswllt.

“Nid wyf am weld rhywbeth o’r fath yn digwydd yng Nghymru.”

‘Cenedl ddwyieithog’

Wrth ymateb, dywedodd y Farwnes Humphreys, cyn lywydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, ei bod hi “wir yn gwrthwynebu'r term ‘ffasgiaeth ieithyddol’”.

“Mae pobl yn methu a deall fod Cymru yn genedl ddwyieithog, ac mae gan bobol yr hawl i ddefnyddio eu hiaith gyntaf, beth bynnag yw’r iaith honno, neu’r ddwy iaith os ydyn nhw’n dymuno gwneud hynny,” meddai.

Dywedodd y Farwnes Chapman, cyn-AS Darlington, ei fod yn “ddrwg iawn” ganddi glywed y sylwadau.

“Rwy’n ei wahodd yn dyner, gyda pharch, i ystyried ei ieithwedd ac a oedd naws ei sylwadau a allai gael eu dehongli fel rhai braidd yn ddi-hid o fudd wrth gryfhau neu wanhau'r undeb.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.