S4C wedi cytuno i ad-dalu pobl wedi problemau Cân i Gymru
Mae S4C wedi cytuno i ad-dalu pobl wedi problemau'r bleidlais ffôn yng nghystadleuaeth Cân i Gymru eleni.
Wrth i’r gân 'Ti' gan Sara Davies gipio gwobr Cân i Gymru 2024 ar Ddydd Gŵyl Dewi, mynegodd nifer fawr o bobol eu rhwystredigaeth ar X (Twitter gynt) a Facebook am nad oedden nhw wedi llwyddo i bleidleisio.
Ymddiheurodd S4C yn fuan wedi diwedd y rhaglen i'r rhai a fethodd â bwrw eu pleidlais.
Mewn datganiad ar wefan Cân i Gymru dywedodd S4C: "Rydym yn deall bod nifer o wylwyr wedi cael trafferthion wrth geisio bwrw pleidlais yn ystod Cân i Gymru 2024 ac mae'n ddrwg iawn gennym am hynny.
"Er i'r system gael ei phrofi'n llwyddiannus o flaen llaw roedd nam technegol yn ystod y cyfnod pleidleisio ar y noson.
"Mae manylion isod am drefniadau i ad-dalu'r gost i unrhyw un wnaeth fwy nag un galwad ffôn i bleidleisio, am nad oedd neges yn cadarnhau bod y bleidlais gyntaf wedi ei chyfrif."
Mae'r sianel wedi cadarnhau ar eu gwefan fod modd hawlio ad-daliad am bob galwad yn dilyn y neges gyntaf.
Mae'r sianel wedi gofyn wrth unrhyw un sy'n ceisio ad-daliad i ddarparu'r wybodaeth isod drwy eu gwefan:
- Enw y person sy'n gwneud y cais a nodi cyfeiriad e-bost
- Yr enw a chyfeiriad sydd ar y bill ffôn
- Rhif y ffôn perthnasol
- Ai o ffôn symudol neu linell ffôn gyffredin y gwnaed yr alwad?
- Pa gwmni sy'n cyflenwi'r gwasanaeth ffôn
- Cost yr ad-daliad
- Uwch lwytho/llun o'r bil ffôn
- Manylion banc