Newyddion S4C

Darlun Van Gogh yn cael ei arddangos yng Nghymru am y tro cyntaf

ITV Cymru 14/03/2024
Vincent Van Gogh

Mae hunanbortreadau un o artistiaid enwocaf y byd yn cael ei arddangos yng Nghymru am y tro cyntaf erioed.

Mae "Portread O'r Artist" Vincent van Gogh o 1887 bellach i’w weld ar waliau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Creodd yr argraffiadwr 35 o hunanbortreadau cyn iddo farw’n  37 oed, gan gadarnhau ei ddelwedd fel un o wynebau mwyaf eiconig celf y Gorllewin.

Wedi'i lleoli fel arfer yn y Musee d'Orsay ym Mharis, bydd y ddelwedd  yn cael ei harddangos rhwng 16 Mawrth a Ionawr 2025, fel rhan o gytundeb benthyciad dwy ffordd gyda Ffrainc.

Yn gyfnewid, bydd La Parisienne gan Renoir, a elwir hefyd yn The Blue Lady, yn teithio ar draws y Sianel.

Image
La Parisienne

Mae’r trefniant hwn yn nodi diwedd Blwyddyn ‘Cymru yn Ffrainc’ Llywodraeth Cymru, gyda’r nod o feithrin cysylltiadau rhwng y ddwy wlad mewn masnach, diwylliant a chwaraeon.

Darlun Van Gogh yw canolbwynt yr arddangosfa newydd, "Drych ar yr Hunlun," sy'n ymchwilio i'r cysyniad o hunanbortread fel yr hunlun gwreiddiol.

Ochr yn ochr â Van Gogh, bydd yr arddangosfa yn cynnwys gweithiau gan artistiaid amrywiol o gasgliad cenedlaethol Cymru, gan gynnwys Rembrandt, Brenda Chamberlain, Francis Bacon, Bedwyr Williams, ac Anya Paintsil.

Dywedodd Dr Kath Davies, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ei bod wrth ei bodd yn croesawu hunanbortread Van Gogh i Gymru.

“Rwy’n siŵr y bydd ymwelwyr â’r amgueddfa yn mwynhau gweld y gwaith hwn gan un o beintwyr mwyaf adnabyddus y byd yn cael ei arddangos ochr yn ochr â phaentiadau gan artistiaid o’n casgliad yma yng Nghymru,” meddai.

Dywedodd Dawn Bowden, dirprwy Weinidog Diwylliant a Chwaraeon Cymru ei fod yn  "ffordd addas i gloi ‘Blwyddyn Cymru yn Ffrainc’".

Nid oes pris tocyn sefydlog ar gyfer yr arddangosfa, ond mae ymwelwyr yn cael eu hannog i "dalu'r hyn y maent yn ei deimlo."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.