Clwstwr Covid Pontyberem: Lledaeniad y feirws 'wedi'i atal'
Mae awdurdodau yn Sir Gaerfyrddin wedi cadarnhau fod lledaeniad Covid-19 ym mhentref Pontyberem "wedi'i atal".
Dywed Cyngor Sir Gâr fod mwy nag 20 achos o Covid-19 wedi eu cadarnhau yn y pentref ar un adeg ond nad oes unrhyw achosion newydd wedi bod ers sawl diwrnod bellach.
Bu'n rhaid canslo gemau criced oherwydd y cynnydd mewn achosion ac mae'r clwb rygbi lleol bellach wedi ail-agor ar ôl cau ei ddrysau dros dro.
Mae'r cyngor wedi diolch i drigolion, busnesau, clybiau a sefydliadau Pontyberem am eu cydweithrediad.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Mae'r asiantaethau sy'n gweithio gyda'i gilydd wrth ymdrin â'r sefyllfa hon wedi cael argraff dda iawn o'r ymateb rhagweithiol gan y clybiau, y busnesau a'r bobl leol a aeth ati i gau yn wirfoddol, gohirio sesiynau hyfforddi a gemau a chyfyngu ar y cyswllt â'i gilydd.
"Rydym yn annog pobl i gofio'r rheolau sylfaenol i ddiogelu eu hunain a'i gilydd - cadw pellter cymdeithasol, hylendid dwylo da, gwisgo gorchudd wyneb, a hunanynysu a chael prawf os ydynt yn teimlo'n sâl (hyd nes y ceir canlyniadau'r profion)".
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi y cafodd 31 achos o Covid-19 eu cofnodi i bob 100,000 o'r boblogaeth rhwng 12 a 18 Mehefin.
Mae hyn ychydig yn is na'r gyfradd ar draws Cymru o 32.3 i bob 100,000 o bobl dros yr un cyfnod.
Llun: Google Maps