Newyddion S4C

Cyffyrdd blychau melyn sy'n gyfrifol am y mwyafrif o ddirwyon yng Nghaerdydd 'yn rhy fawr'

15/03/2024
cyffyrdd blwch melyn

Mae'r mwyafrif o gyffyrdd blychau melyn sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o ddirwyon yng Nghaerdydd yn "fwy nag sydd angen bod" yn ôl ymchwil newydd.

Dywedodd cymdeithas foduro’r RAC fod eu dadansoddiad yn dangos fod gyrwyr yn wynebu "cael dirwy yn ddiangen" pan nad yw eu gweithredoedd wedi "arwain at dagfeydd".

Mae'r cyffyrdd yn cael eu defnyddio fel ymgais i sicrhau nad oes gormod o draffig mewn cyffyrdd prysur. 

Ni ddylai gyrwyr fynd i mewn iddynt oni bai bod eu allanfa yn glir neu eu bod yn disgwyl i droi i'r dde.

Fe gafodd y peiriannydd Sam Wright ei gomisiynu gan yr RAC i ddadansoddi'r 100 bocs ar draws Caerdydd a Llundain a oedd yn gyfrifol am y mwyafrif o ddirywon yn 2019. 

Darganfyddodd fod 98 ohonynt yn fwy nag sydd angen yn eu rôl o atal cerbydau sydd yn ciwio rhag rhwystro llwybrau traffig eraill. 

Yn ôl yr ymchwil, mae'r blwch cyfartalog 50% yn fwy nag sydd angen. 

Mae'r RAC a Mr Wright yn galw ar Lywodraeth y DU i ddiweddaru eu cyngor i gynghorau am flychau melyn ar unwaith, gan ei gwneud hi'n glir lle a sut y dylid eu defnyddio. 

Yng Nghaerdydd, y ddirwy ar gyfer troseddau cyffyrdd blychau melyn ydi £70, ac mae'n cael ei gostwng i £35 os y caiff ei thalu o fewn 21 diwrnod. 

Dywedodd llefarydd ar ran yr RAC, Rod Dennis: "Gyda mwy a mwy o gynghorau’n dechrau gorfodi cyffyrdd blychau melyn, mae’n gwbl hanfodol eu bod yn cael eu dylunio yn bennaf i gynorthwyo llif traffig, ac nad ydynt yn bodoli dim ond i godi refeniw gan yrwyr."

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Drafnidiaeth: "Fel rhan o'n Cynllun i Yrwyr, rydym wedi ein hymrwymo i sicrhau nad yw cynghorau yn cosbi gyrwyr yn annheg er mwyn codi refeniw, ac rydym yn adolygu ein canllawiau ynghylch blychau melyn i fynd i'r afael â chosbi heb fod angen."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.