Newyddion S4C

Penodi Guto Bebb yn Gadeirydd dros dro S4C

14/03/2024
Guto Bebb

Mae'r cyn-aelod seneddol Ceidwadol, Guto Bebb wedi ei benodi'n Gadeirydd dros dro S4C.

Mae Mr Bebb wedi ei benodi i'r rôl wedi i Rhodri Williams ddweud ym mis Ionawr nad oedd am  gael ei ystyried ar gyfer ail gyfnod yn Gadeirydd S4C.

Fe fu Mr Bebb yn Aelod Seneddol dros Aberconwy am ddegawd gan wasanaethu fel Gweinidog yn Swyddfa Cymru a'r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Yn enedigol o Sir y Fflint, mae Mr Bebb wedi byw yng Nghaernarfon ers 40 mlynedd. Cyn ei ethol i San Steffan fe fu'n rhedeg amrywiol fusnesau gan gynnwys Ymgynghoriaeth Datblygu Economaidd a Siop Lyfrau.

Mae Mr Bebb ar hyn o bryd hefyd yn gweithio fel Rheolwr Gyfarwyddwr Grŵp Undeb Amaethwyr Cymru.

Fe fydd cyfnod Mr Bebb wrth y llyw yn dechrau wedi i gyfnod y cadeirydd presennol ddod i ben ar 31 Mawrth. 

Fe fydd y cyfnod yn dod i ben ar 31 Mawrth 2025.

Daw ymadawiad Rhodri Williams wedi cyfnod cythryblus i’r sianel, yn dilyn honiadau o fwlio.

Collodd Prif Weithredwr S4C, Sian Doyle ei swydd gyda’r darlledwr wedi i adroddiad gan gwmni cyfreithiol Capital Law gael ei gyhoeddi fis Rhagfyr.

Roedd y ddogfen yn nodi fod tystiolaeth staff yn amlygu ymddygiad honedig y Prif Weithredwr "fel un a gafodd yr effaith fwyaf arwyddocaol negyddol ar yr amgylchedd waith ac awyrgylch o fewn S4C".

Dywedodd Ms Doyle nad oedd hi'n "cydnabod na derbyn" yr honiadau a wnaed yn yr adroddiad, gan ac alw ar Lywodraeth y DU i ymchwilio i arweinyddiaeth S4C.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.