£500,000 i roi tocynnau am ddim i'r ddwy Eisteddfod
£500,000 i roi tocynnau am ddim i'r ddwy Eisteddfod
Tref farchnad Pontypridd.
Cartref Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf eleni.
Bydd £350,000 ar gael i sicrhau bod mwy fyth o drigolion y sir yn gallu ymweld â'r ŵyl eleni.
Bydd yr arian yn cael ei wario ar docynnau mynediad a thalebau bwyd i deuluoedd ac unigolion ar incwm isel.
"'Dan ni wrth ein boddau bod yr arian ychwanegol ar gael gyda ni i ni allu meithrin ymwybyddiaeth drwy'r ardal i allu dweud wrth bobl bod gyda ni Eisteddfod gynhwysol a hygyrch.
"Dewch aton ni i gael blas o beth yw Eisteddfod.
"Dw i'n siwr bod llawer o deuluoedd sy'n cael eu targedu erioed wedi meddwl bydde cyfle gyda nhw i fynd i Eiteddfod a gweld beth yw gŵyl Gymraeg."
Nid dyma'r tro cyntaf i'r Llywodraeth gyhoeddi bod 'na arian ychwanegol fel hyn ar gael.
Cafodd £500,000 ei gynnig yn Llanrwst yn 2019 a £150,000 ar gael yng Ngheredigion ac yn Llŷn ac Eifionydd y llynedd.
Dyma'r swm mwyaf sylweddol i'w gynnig hyd yn hyn. "Gydag unrhyw arian cyhoeddus mae'n rhaid profi beth yw'r effaith.
"Dros y bum mlynedd dwetha ni wedi bod yn edrych ac yn astudio'r ymateb.
"Mae pobl yn dweud bod 'na newid agwedd tuag at y Gymraeg.
"Mae 'na bobl yn cychwyn eu siwrnai ieithyddol yn dysgu'r Gymraeg.
"Mae'n bwysig bod yr Eisteddfod yn gallu bod yn rhan o gyrraedd y miliwn o siaradwyr a bod cyfle i bobl brofi'r Gymraeg ar eu stepen drws."
Fe fydd hyd at 18,400 o drigolion lleol yn gallu elwa ar y cynllun eleni.
Yn eu plith, teuluoedd rhai disgyblion Ysgol Garth Olwg.
"Trwy gynnig yr arian ychwanegol fydd 'da ni gynulleidfa fwy eang.
Falle bydd e'n rhoi cyfle i bobl fydde heb ystyried dod i'r Eisteddfod weld beth yw'r ŵyl."
"Bydd yr arian ychwanegol yn denu fwy o bobl i'r Steddfod."
"Fi'n credu bydd pobl oedd heb ystyried dod yn gallu dod.
"Falle bydd e'n hybu nhw ddod yn y blynyddoedd nesaf."
Mae cyfanswm o £500,000 wedi'i gyhoeddi heddi gyda'r Urdd hefyd yn elwa.
Fydd yr ŵyl ieuenctid yn derbyn £150,000.
Mae disgwyl rhagor o fanylion ynglŷn â sut fydd yr arian yn cael ei wario ym Maldwyn yr wythnos nesaf.
Morus y Gwynt ac Ifan y Glaw oedd yr unig ymwelwyr â maes y Brifwyl ym Mhontypridd y bore 'ma.
Fis Awst, fydd y trefnwyr yn gobeithio am haul braf a llond cae o ymwelwyr, hen a newydd.