Newyddion S4C

Gruff Rhys yn tynnu allan o ŵyl gerddoriaeth yn yr UDA mewn gwrthwynebiad i'r rhyfel yn Gaza

14/03/2024
Gruff Rhys

Mae’r cerddor adnabyddus Gruff Rhys wedi cyhoeddi na fydd bellach yn perfformio mewn gŵyl gerddoriaeth yn yr Unol Daleithiau fel rhan o “ymdrech personol” i wrthwynebu’r rhyfel yn Gaza.

Fe gyhoeddodd prif leisydd grŵp roc y Super Furry Animals ei fwriad i dynnu allan o ŵyl South by South West (SXSW) yn nhalaith Texas nos Fercher, gan fod nifer o’i noddwyr â chysylltiadau â ymgyrch filwrol Israel yn Gaza.

Mae’n ymuno â dros 80 o artistiaid ac aelodau’r panel sydd hefyd wedi cyhoeddi na fyddan nhw bellach yn cymryd rhan yn yr ŵyl.

Fe ddaw yn dilyn protest gan Austin for Palestine Coalition, a wnaeth dynnu sylw at gysylltiadau’r ŵyl gyda sawl cwmni ac asiantaeth arfau sydd ynghlwm ag Adran Amddiffyn yr Unol Daleithiau.

Mewn datganiad ar ei gyfrif Instagram, dywedodd Gruff Rhys: “Yn dilyn yr holl arswyd a’r trais eithafol mae dinasyddion Gaza wedi dioddef, rwy’n teimlo mai'r defnydd gorau o'm platfform yn sioeau swyddogol SXSW eleni yw peidio â pherfformio fy ngherddoriaeth.

“Rwyf wedi siomi yn bersonol oherwydd rwy’n caru perfformio… dwi wedi cymryd rhan yn yr ŵyl nifer o weithiau a dwi’n ei garu."

Ychwanegodd y cerddor ei fod yn teimlo’n “eithaf rhagrithiol” gan nodi mae’n debyg ei fod â chysylltiadau i sawl ymgyrch neu fudiad “amherffaith” eraill wrth ystyried ei ran yn y diwydiant cerddoriaeth.

“Ond rwy'n teimlo bod hon yn foment hanesyddol unigryw a sobreiddiol iawn a bod gwerth i ystumiau symbolaidd,” ychwanegodd.

Cysylltiadau Cymreig

Roedd disgwyl i Gruff Rhys cymryd rhan yn yr ŵyl fel rhan o restr o gerddorion a gyhoeddwyd gan Focus Wales mewn partneriaeth a’r ŵyl SXSW.

Mewn partneriaeth ar y cyd gyda Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Cymru Greadigol a Llywodraeth Cymru, roedd Focus Wales eisoes wedi cyhoeddi rhestr o naw cerddor oedd am berfformio yn yr ŵyl, gan hefyd gynnwys Islet, HMS Morris, Lemfreck, Aleighcia Scott, Minas ac Otto Aday.

“Mae fy nghysylltiad personol a chariad tuag at Focus Wales yn anodd, yn enwedig wrth i mi dynnu allan o’u sioe nhw yn benodol,” dywedodd Gruff Rhys.

“Mae Focus Wales wedi ymrwymo i gyflwyno’r gorau o Gymru i gynulleidfa ryngwladol ac ar lefel bersonol wedi bod yn gefnogol iawn o fy ngwaith,” meddai.

Gwrthwynebu

Mae SXSW wedi cael ei gynnal yn Austin, Texas ers 1987, ac mae disgwyl i’r ŵyl dod i ben ar 16 Mawrth eleni.

Ond mae nifer o artistiaid eraill wedi tynnu allan o’r ŵyl erbyn hyn, gan gynnwys y cerddor Ella Williams, neu Squirrel Flower, oedd un o’r naw cyntaf a gyhoeddodd ei bwriad i beidio perfformio yno ar 4 Mawrth.

Mae’r artistiaid Gwyddelig, Kneecap, hefyd wedi cyhoeddi na fyddan nhw’n perfformio yno chwaith. 

Wrth ymateb i’r boicot yn erbyn SXSW, dywedodd Llywodraethwr talaith Texas, Greg Abbott, ddydd Mawrth: “Rydyn ni’n falch o fyddin yr Unol Daleithiau yn Texas… Os nad ydych chi'n ei hoffi, peidiwch â dod yma.”

Mae dros 30,000 o bobl Palesteina wedi cael eu lladd yn dilyn ymgyrch filwrol Israel yn Gaza, a hynny mewn ymateb i gyrchoedd gwaedlyd Hamas ar Israel ar 7 Hydref y llynedd.

Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau Joe Biden wedi parhau i gefnogi Israel yn ei ymgyrch filwrol, gan ddarparu nwyddau milwrol i’r wlad.

Ond dros yr wythnosau diwethaf, mae wedi bod yn fwy beirniadol o’r ymgyrch, gan alw am gadoediad ac ymrwymo i adeiladu porthladd dros dro er mwyn darparu cymorth i ddinasyddion Gaza.

 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.