Datgomisiynu Ysbyty Enfys Bangor
Fe fydd y ganolfan frechu yn Ysbyty Enfys Bangor yn cau fis nesaf.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cyhoeddi y bydd y ganolfan frechu ar y safle yn cau fis Gorffennaf.
Daw hyn fel rhan o gynllun y bwrdd iechyd i datgomisiynu'r ysbyty dros dro erbyn mis Medi.
Bydd modd i bobl gael eu brechu yng Nghadeirlan Bangor o 5 Gorffennaf ymlaen.
Yn ogystal, fe fydd clinigau yn cael eu sefydlu yng Nghanolfan Hamdden a Thenis (Byw'n Iach Arfon) Caernarfon ac yn cael eu cynnal ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau'r haf.
Cafodd Ysbyty Enfys Bangor ei sefydlu yng Nghanolfan Brailsford yn Ebrill 2020, ynghyd ag Ysbytai Enfys yn Venue Cymru yn Llandudno a Chanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy yn Sir y Fflint.