Newyddion S4C

Michael Gove yn enwi grwpiau a allai gael eu diffinio fel rhai 'eithafol'

14/03/2024
Michael Gove

Mae Llywodraeth y DU wedi enwi rhai grwpiau all gael eu diffinio fel rhai 'eithafol'.

Fore Iau, daeth cyhoeddiad gan y Llywodraeth ynglŷn â diffiniad o’r newydd ar gyfer ‘eithafiaeth’ gan olygu y byddai grwpiau penodol yn cael eu rhwystro rhag derbyn cyllid gan y llywodraeth, neu gwrdd â swyddogion. 

Mi fydd y diffiniad bellach yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio grwpiau sy’n hyrwyddo ideoleg sy’n seiliedig ar “drais, casineb, neu anoddefgarwch.”

Yn wahanol i grwpiau terfysgol, ni fydd y grwpiau sy’n cael eu hychwanegu i’r rhestr yn cael eu cosbi’n droseddol – ond mi fyddant yn cael eu hatal rhag cysylltu â’r llywodraeth ac ni fydd yn derbyn cyllid gan y llywodraeth chwaith. 

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cymunedau, Michael Gove, fod twf mewn eithafiaeth ers rhyfel Israel-Gaza yn peri “risg gwirioneddol” i’r DU.

Wrth drafod y cynllun yn Nhŷ'r Cyffredin, fe wnaeth Mr Gove enwi pum grŵp penodol a allai cael eu diffinio fel rhai eithafol, yn ôl y canllawiau newydd:

- British National Socialist Movement
- Patriotic Alternative
- Muslim Association of Britain - the British affiliate of the Muslim Brotherhood
- Cage
- MEND

Dywedodd Mr Gove: "Byddwn yn gwneud y sefydliadau yma, a rhai eraill, yn gyfrifol am asesu a ydynt yn bodloni ein diffiniad o eithafiaeth a byddwn yn gweithredu fel y bo’n briodol.”

Fel rhan o’r diffiniad newydd mi fydd grwpiau sy’n “tanseilio neu ddinistrio hawliau a rhyddid” pobl eraill yn cael eu targedu, yn ogystal â grwpiau sy’n ceisio “tanseilio, gwrthdroi neu ddisodli’r” system o ddemocratiaeth seneddol ryddfrydol a hawliau democrataidd yn y DU.

“Gwrthwynebiad lleisiol neu weithredol i werthoedd Prydeinig sylfaenol, gan gynnwys democratiaeth, rheolaeth y gyfraith, rhyddid yr unigolyn a pharch a goddefgarwch tuag at wahanol ffydd a chred,” yw’r diffiniad sydd wedi’i ddefnyddio i ddisgrifio eithafiaeth ers 2011."

Ond mae’r diffiniad newydd yn fwy “clir” gan sicrhau y gallai eithafiaeth cael eu targedu gyda mwy o fanylder, meddai’r llywodraeth. 

Ni fydd grwpiau sydd â "chredau preifat, heddychlon" yn cael eu targedu fel rhan o’r polisi newydd, ychwanegodd Llywodraeth y DU. 

'Annheg'

Ond fe ddaw’r cyhoeddiad ddydd Iau yn dilyn cyfnod o feirniadaeth hefyd, gyda rhai grwpiau hawliau sifil, grwpiau cymunedol ac ASau eisoes wedi beirniadu’r “iaith” mae’r llywodraeth yn eu defnyddio wrth drafod eithafiaeth.

Mae pennaeth Cyngor Fwslemiaid Prydain wedi dweud y byddai’r diffiniad yn arwain at “dargedu cymunedau Mwslim,” a hynny’n “annheg.”

Mae Jonathan Hall, sef adolygydd annibynnol y llywodraeth ar gyfer deddfwriaeth terfysgaeth, hefyd wedi rhybuddio y gallai’r polisi newydd “danseilio enw da’r DU oherwydd na fyddai’n cael ei ystyried yn ddemocrataidd”.

Nid yw’n glir hyd yma pa grwpiau fydd yn cael eu targedu dan y diffiniad newydd, ond mae’r llywodraeth wedi awgrymu y gallai grwpiau eithafol Islamwyr a neo-Natsïaid fod dan sylw. 

Bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi rhestr yn enwi’r grwpiau penodol yn ystod yr wythnosau nesaf.

Llun: Lucy North/PA Wire

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.