Newyddion S4C

Aelodau'r Gyngres yn pleidleisio o blaid gwahardd TikTok yn America

14/03/2024
Ty'r Cynrychiolwyr / TikTok

Fe allai’r cyfrwng cymdeithasol TikTok gael ei wahardd yn yr Unol Daleithiau o fewn chwe mis.

Mae Tŷ’r Cynrychiolwyr wedi cymeradwyo deddf sydd yn rhoi chwe mis i’r cwmni o Tsieina, ByteDance, sydd yn berchnogion ar TikTok, i werthu’r platfform cymdeithasol, neu wynebu gwaharddiad llawn yn America.

Er bod y bleidlais wedi ei gymeradwyo gan aelodau’r Gyngres, bydd angen i’r ddeddf dderbyn cymeradwyaeth y Senedd a chael ei harwyddo gan yr Arlywydd Joe Biden, cyn y bydd yn cael ei wneud yn gyfraith.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae llywodraethwyr y wlad wedi mynegi pryderon am ddylanwad Tsieina dros TikTok.

Cafodd yr ap ei sefydlu yn 2012 gan ByteDance, sydd a’i phencadlys yn Beijing. Mae gan y cwmni sawl swyddfa yn Ewrop ac yr UDA, ac wedi ei gofrestru yn yr Ynysoedd Cayman.

Pe byddai’r bil yn cael ei gymeradwyo yn y Senedd, mae’r Arlywydd Biden wedi addo ei lofnodi ar unwaith.

Fe allai hynny arwain at ddadl ddiplomyddol rhwng yr UDA a Tsieina, gyda Beijing yn gwrthwynebu’r penderfyniad.

Mae'r gyfraith yn Tsieina yn gorfodi cwmnïoedd i rannu eu data gyda'r Llywodraeth, ar eu cais nhw.

Mae Prif Weithredwr TikTok, Shou Zi Chew, wedi dweud bod y cwmni wedi ymrwymo i gadw data yn ddiogel ac wedi mynnu fod y cyfrwng yn “rhydd o ddylanwad allanol".

Fe rybuddiodd y gallai gwaharddiad bosib arwain at golli miloedd o swyddi yn America a rhoi “rhagor o rym i gwmnïoedd cyfryngau cymdeithasol eraill”.

Llun: Flickr/Ron Cogswell

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.