Newyddion S4C

Tad wnaeth golli ei ferch yn ystod y pandemig yn beirniadu Boris Johnson am beidio â chwrdd gyda Mark Drakeford

Newyddion S4C 13/03/2024

Tad wnaeth golli ei ferch yn ystod y pandemig yn beirniadu Boris Johnson am beidio â chwrdd gyda Mark Drakeford

Mae hi’n “gywilyddus” nad oedd Boris Johnson yn mynychu cyfarfodydd rheolaidd gyda Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford  yn ystod y pandemig yn ôl tad a gollodd ei ferch i’r haint.

Bu farw Christine Davies o ardal Ruthun o Covid-19 ym mis Tachwedd 2021.

Yn ôl ei thad Esmor Davies o ardal Bwcle yn Sir y Fflint, ‘dyw tair wythnos o gynnal Ymchwiliad Covid yng Nghymru ddim yn ddigon. Mae'n dweud fod ganddo gwestiynau o hyd.

Fe glywodd yr ymchwiliad sy’n cael ei gynnal yng Nghaerdydd fod Mr Drakeford ynghyd â gwleidyddion eraill o Lywodraeth Cymru wedi trafod gyda gweinidogion eraill o Lywodraeth Prydain yn absenoldeb Mr Johnson.

Mae Mr Davies wedi dilyn cryn dipyn o’r ymchwiliad wrth iddo graffu ar benderfyniadau a wnaed yma yng Nghymru ac mae'n dweud fod y dystiolaeth yn rhoi argraff clir o ‘flerwch’.

“Roedd y ddau, Drakeford a Gething wedi cyfaddef eu bod nhw wedi gwneud mistakes yn y cychwyn a dwi’n teimlo fod hynny yn flêr ofnadwy”, meddai.

“Ma’n gywilyddus dwi’n meddwl... pan mae nhw’n dod efo’r atebion neu y statements does dim allwch chi goelio. A Gething wedi colli ei Whatsapps, sut allwch chi reoli’r wlad ‘ma ac eto colli Whatsapps, lle ma’i back up o”?

'Colli tymer'

Wrth roi tystiolaeth yn yr ymchwiliad mae Mr Gething wedi dweud i’w negeseuon gael eu dileu wrth i’w ffôn gael ei ddiweddaru.

Ddydd Mawrth fe ddywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ei bod hi’n “rhyfeddol” bod Boris Johnson wedi gwrthod cyfarfod â’r gwledydd datganoledig.

“Roedda ni wedi colli merch ac mi oedd o [Boris Johnson] fel pennaeth y wlad, y Prime Minister yn cael partis mawr ‘ma a nesh i golli fo efo hynny”, meddai Esmor Davies.

“Ond i beidio a dod i’r meetings ‘ma... mae’n gywilyddus. Cymru yda ni, ‘da ni’n cael ein llywodraethu gan y llywodraeth hynny a dylse fo di attendio’r meetings yma a rhoi back up i Drakeford.

“Gath Drakeford ddim backing gan Johnson a’r ddau yn erbyn ei gilydd a hynny’n gywilyddus i feddwl bod nhw’n rheoli’r wlad ma”.

Ychwanegodd nad oedd yn teimlo fod tair wythnos o graffu yn ddigon i ddeall goblygiadau penderfyniadau a wnaed gan wleidyddion.

Gyda’r ymchwiliad yn tynnu tua’r terfyn mae’r dair wythnos ddiwethaf wedi bod yn gyfnod o gofio i Mr Davies.

'Torri calon'

“Mi oedd Christine llawn o hwyl”, meddai.

“Yn ffrind imi, yn ferch imi ac yn ffrind i’w theulu i gyd... yn licio daffodils, rygbi”.

“Ddaru Christine fynd mewn i’r ysbyty amser cinio ar y dydd Sul ac o fewn 7/8 awr mi aeth hi mewn i coma a nath hi ddim ddod allan”.

“Oedd hi’n berson arbennig i bawb... gwên trwy yr afiechyd oedd ganddi, rheumatoid arthritis, ac yn gwenu hyd y dwrnod ola, Ond gesh i ddim mo’i gweld hi a mae hynny'n torri fy nghalon”.

Mae’r tractor cyntaf i Mr Davies erioed fod yn berchen arno o flaen ei gartref, a hynny bellach â llun a chofeb am ei ferch arno. Mae'n dweud fod yn atgof hapus o’r diddordeb oedd y ddau yn eu rhannu.

Mi fydd yr ymchwiliad Covid yng Nghymru yn dod i ben ddydd Iau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.