Newyddion S4C

Carcharu dau frawd am ymosod ar ddyn mewn gêm bêl-droed

13/03/2024
Stadiwm Caerdydd

Mae dau frawd wedi eu carcharu a’u gwahardd rhag mynd i gemau pêl-droed am bum mlynedd yn dilyn ymosodiad yn Stadiwm Dinas Caerdydd y tymor diwethaf.

Plediodd Steven Jones, 33 oed o Aberpennar, a Cory Jones, 28 oed o Abercynon, yn euog o ymosod yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth.

Fe ymosododd y brodyr, oedd yn cefnogi clwb pêl-droed Dinas Caerdydd, ar ddyn arall wedi buddugoliaeth  Abertawe yn y stadiwm ar 1 Ebrill y llynedd.

Ymosododd y pâr ar y dyn, oedd yn 23 oed o ardal Castell-nedd, wedi iddo neidio o’i sedd er mwyn dathlu buddugoliaeth Abertawe, gan ei daro a’i gicio.

Fe gafodd y dyn ei wthio i lawr 10 o risiau yn olynol gan daro rhes o seddi cyn iddo gael ei helpu o’r stadiwm gan staff a chefnogwyr eraill.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yn y brifddinas ac fe gafodd triniaeth feddygol ar gyfer briwiau a chleisiau i'w ben, ei gefn a'i dorso.

Roedd lluniau teledu cylch cyfyng yn dangos y brodyr yn chwerthin yn y coridor wedi’r ymosodiad.  

Dywedodd Simon Chivers, sy’n swyddog arbenigol Heddlu De Cymru ar gyfer gemau pêl-droed: “Roedd eu hymddygiad yn echrydus a heb os nac oni bai, byddai’r mwyafrif o gefnogwyr clwb pêl-droed Caerdydd – sy’n ymddwyn yn dda ac yn angerddol dros eu clwb – yn cael eu syfrdanu gan y digwyddiad hwn.”

O ystyried difrifoldeb yr ymosodiad “mae’n rhyfeddol ac yn ffodus” na chafodd y dyn anafiadau mwy difrifol, ychwanegodd.

Yn ogystal â chael ei wahardd rhag mynd i gemau pêl-droed, fe gafodd Steven Jones ei ddedfrydu i 12 mis yn y carchar, ac fe gafodd ei frawd Cory Jones ei garcharu am 15 mis.

Cafodd y ddau orchymyn i beidio ag yfed alcohol am 120 diwrnod ac fe fydd angen iddyn nhw wneud cyfnod o waith di-dâl hefyd.

Bydd rhaid i’r brodyr talu £500 yr un i’r dioddefwr yn ogystal.

Mae Heddlu De Cymru yn parhau i apelio am ragor o lygad-dystion, wrth i swyddogion ceisio dod o hyd i ddau berson arall ynghlwm â’r ymosodiad oedd i'w gweld ar luniau teledu. 

Image
HDC

 

Image
HDC

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.