Newyddion S4C

Euro 2024: Aaron Ramsey wedi ei gynnwys yng ngharfan Cymru

13/03/2024
Chwaraewyr Cymru yn dathlu wedi iddynt sgorio yn erbyn Latfia

Mae capten Cymru Aaron Ramsey wedi cael ei gynnwys yng ngharfan ei wlad ar gyfer y gemau ail-gyfle Euro 2024.

Nid yw Ramsey wedi dechrau gêm i'w glwb Caerdydd ers 16 Medi, ond mae bellach yn holliach ar gyfer gemau Cymru.

Mae Rubin Colwill a Rabi Matondo hefyd wedi eu cynnwys yn y garfan am y tro cyntaf ers rhai misoedd.

Bydd Cymru yn herio'r Ffindir yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 21 Mawrth yn y rownd gyn-derfynol.

Os ydynt yn ennill y gêm honno fe fyddant yn herio Gwlad Pwyl neu Estonia yn y rownd derfynol yng Nghaerdydd ar 26 Mawrth.

Bydd ennillwyr y gêm honno yn sichrau eu lle yn Euro 2024.

Dyma'r garfan yn llawn:

Danny WARD, Tom KING, Adam DAVIES, Ben DAVIES, Joe RODON, Joe LOW, Chris MEPHAM, Ben CABANGO, Neco WILLIAMS, Jay DASILVA, Connor ROBERTS, Ethan AMPADU, Jordan JAMES, Charlie SAVAGE, Aaron RAMSEY, Josh SHEEHAN, Harry WILSON, Nathan BROADHEAD, Rabbi MATONDO, David BROOKS, Daniel JAMES, Liam CULLEN, Rubin COLWILL, Wes BURNS, Brennan JOHNSON, Kieffer MOORE

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.