Newyddion S4C

Teulu ffermio o Sir Benfro wedi'u dedfrydu am newid tagiau gwartheg oedd gyda'r diciâu

Buwch

Mae tri aelod o deulu ffermio yn Sir Benfro wedi’u dedfrydu am newid tagiau clust rhai gwartheg, gan olygu bod anifeiliaid gyda’r diciâu yn parhau ar y fferm.

Fe gafodd Edward, Charles a Henry Hartt o fferm odro EW Hartt & Sons, yng Nghlunderwen, eu dedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ar 4 Mawrth am droseddau yn ymwneud â methu â rheoli gwartheg a chlefydau. 

Clywodd y llys bod gwartheg uwch eu gwerth, a gafodd brawf positif am y diciâu, wedi cael eu cadw ar y fferm, tra bod anifeiliaid is eu gwerth yn cael eu hanfon i’r lladd-dy yn eu lle.

Cafodd gwartheg oedd wedi’u heintio eu cadw ar y fferm, gan beri risg sylweddol o ledaenu’r clefyd i anifeiliaid eraill.

Byddai gwartheg iach, nad oeddent wedi eu heintio a’r diciâu, hefyd wedi cael eu lladd o ganlyniad.

Roedd tystiolaeth hefyd yn dangos pan fod gwartheg is eu gwerth yn profi’n bositif am yr haint, roedd y ffermwyr yn eu newid gyda gwartheg uwch eu gwerth adeg prisio er mwyn sicrhau mwy o iawndal. 

Roedd cyfran o laeth y fferm hefyd wedi dod yn wreiddiol o wartheg gydag adweithyddion y diciâu, a ddylai fod wedi cael eu cludo o'r fferm a’u hatal rhag mynd i mewn i’r gadwyn fwyd dan ddeddfwriaeth diogelwch bwyd. 

Cafodd pob diffynnydd ddirwy o £24,000. 

Yn ogystal â’r ddirwy, cafodd camau pellach eu cymryd yn erbyn y tri dyn dan Ddeddf Enillion Troseddau 2002. 

Troseddau

Roedd troseddau’r teulu Hartt wedi eu galluogi i ehangu eu busnes yn “raddol ac yn gyson,” a’i roi ar sylfaen ariannol gryfach, ar draul ffermydd eraill mewn marchnad gystadleuol, clywodd y llys. 

Roedd y llys hefyd wedi clywed bod y fferm wedi derbyn “llawer mwy” o daliadau iawndal ar gyfer y diciâu na’r rhan fwyaf o ffermydd eraill.

Roedd y fferm yn un o ddwy yn unig yng Nghymru lle mae’r diciâu wedi bod yn bresennol ers dros 20 mlynedd, ac ers 2009 roedd y fferm wedi derbyn dros £3 miliwn mewn taliadau iawndal - mwy nag unrhyw fferm arall yng Nghymru.

Cafodd gorchymyn atafaelu gwerth £217,906 eu cyhoeddi yn erbyn pob diffynnydd. 

Roedd y llys hefyd wedi dyfarnu costau iawndal gwerth £94,569 i’r cyngor.

Ar ôl i’r achos llys ddod i ben, dywedodd y Cynghorydd Michelle Bateman, Aelod o’r Cabinet dros Weithrediadau Tai a Gwasanaethau Rheoleiddio, eu bod yn croesawu maint y ddedfryd.

Dywedodd: “Bydd yr achos hwn wedi arwain at gost ddiangen a threth ar adnoddau’r rhai sy’n ymwneud â’r rhaglen gwaredu TB, gan gynnwys defnydd mawr o arian cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru, sy’n ariannu’r gwaith o weithredu’r cynllun iawndal. 

“Rwy’n llongyfarch swyddogion y Cyngor a’r holl asiantaethau am ddod â’r achos hwn i’r llys yn llwyddiannus gan obeithio y bydd yr achos hwn a’r ddedfryd yn rhoi neges na chaiff ymddygiad anghyfreithlon o’r math yma ei oddef.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.