Twf yn economi'r DU ym mis Ionawr wedi dirwasgiad
Fe wnaeth economi’r DU dyfu 0.2% ym mis Ionawr, gan godi gobeithion fod y wlad ar y ffordd allan o ddirwasgiad.
Yn ôl data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol fore Mercher fe gododd cynnyrch mewnwladol crynswth (GDP) 0.2% ym mis Ionawr, yn dilyn gostyngiad o 0.1% ym mis Rhagfyr.
Roedd gwerthiannau yn y sector manwerthu yn ganolog i'r twf, gyda chwsmeriaid yn gwneud y mwyaf o fargeinion ar ôl y Nadolig ac yn gwario mwy mewn archfarchnadoedd.
Daw'r cynnydd wedi i'r DU brofi cyfnod o ddirwasgiad am y tro cyntaf ers 2020.
Dangosodd ffigyrau Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) ostyngiad o 0.3% yn ystod tri mis olaf 2023.
Mae hynny’n dilyn cwymp o 0.1% yn y chwarter blaenorol, rhwng misoedd Gorffennaf a Medi.
Mae dirwasgiad yn digwydd pan mae yna ddau chwarter olynol o dwf negyddol.