Newyddion S4C

Sylwadau honedig Frank Hester yn 'hiliol ac anghywir' medd Rhif 10

13/03/2024
diane abbott frank hester.jpg

Roedd yr honiadau honedig gan un o brif roddwyr y blaid Geidwadol Frank Hester am Diane Abbott yn "hiliol ac anghywir" yn ôl Downing Street.

Yr honiad oedd bod Mr Hester wedi dweud bod Ms Abbott yn gwneud iddo “fod eisiau casáu pob menyw ddu” ac y “dylai gael ei saethu”.

Roedd Rhif 10 wedi dweud yn flaenorol bod y sylwadau yn "annerbyniol" ond gwrthododd eu disgrifio fel rhai hiliol.

Ond ar ôl i un o weinidogion ei gabinet, Kemi Badenoch, eu disgrifio fel rhai "hiliol" roedd y Prif Weinidog, Rishi Sunak dan bwysau am y sylwadau.

Mewn datganiad newydd a gafodd ei gyhoeddi nos Fawrth, dywedodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog: "Roedd yr honiadau honedig a gafodd eu gwneud gan Frank Hester yn hiliol ac anghywir. Mae bellach wedi ymddiheuro am y sarhad a gafodd ei achosi, a dylai'r edifeirwch sy'n cael ei ddangos gael ei dderbyn."

Dywedodd The Guardian fod Mr Hester wedi gwneud y sylwadau am Ms Abbott wrth feirniadu swyddog gweithredol benywaidd mewn sefydliad arall yn ystod cyfarfod ym mhencadlys TPP yn 2019.

Yn ôl y papur newydd, roedd Mr Hester wedi dweud: “Mae fel ceisio peidio â bod yn hiliol ond rydych chi’n gweld Diane Abbott ar y teledu ac rydych chi fel… rydych chi eisiau casáu pob menyw ddu oherwydd ei bod hi yno.

'Dychrynllyd'

“A dydw i ddim yn casáu pob menyw ddu o gwbl, ond rwy’n meddwl y dylai gael ei saethu.

Dywedodd Ms Abbott, sydd wedi ei gwahardd fel AS Llafur ar hyn o bryd, fod y sylwadau yn "ddychrynllyd".

Mae Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw ar y Blaid Geidwadol i ddychwelyd yr arian mae Mr Hester wedi ei roi iddi.

Fe roddodd Mr Hester £10 miliwn i’r Ceidwadwyr y llynedd, yn ôl y Comisiwn Etholiadol.

Mae disgwyl i Mr Sunak wynebu cwestiynau am y mater gan arweinydd y Blaid Lafur Syr Keir Starmer ddydd Mercher. 

Mewn datganiad a gafodd ei ryddhau gan ei gwmni TPP, dywedodd Mr Hester ei fod wedi ffonio Ms Abbott dydd Llun i “ymddiheuro’n uniongyrchol am y boen mae wedi achosi iddi”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.