Gareth Anscombe i ymuno â Chaerloyw
Mae Caerloyw wedi cyhoeddi eu bod wedi arwyddo maswr Cymru, Gareth Anscombe ar gyfer y tymor nesaf.
Dechreuodd y chwaraewr 32 oed, sydd wedi ennill 35 o gapiau dros Gymru ei yrfa yn Seland Newydd lle cafodd ei eni cyn symud i Gymru yn 2014.
Fe fydd yn ymuno â Tomos Williams, sydd hefyd wedi arwyddo cytundeb gyda'r clwb ar gyfer y tymor nesaf.
Wrth siarad yn dilyn y cyhoeddiad dywedodd Anscombe ei fod yn edrych ymlaen i chwarae o flaen y dorf yng Nghaerloyw.
"Un o'r pethau wnaeth fy nghyffroi yw'r awyrgylch rydych chi'n ei gael yma," meddai.
"Mae'r gefnogaeth mae'r clwb wedi derbyn wedi bod yn anhygoel ac mae'n lle gwych.
"Dydyn ni ddim mor lwcus yng Nghymru gyda chefnogaeth i'r rhanbarthau felly mae'r awyrgylch yn y clwb yma yn apelio ataf."
Llun: Asiantaeth Huw Evans