Newyddion S4C

Pryderon bod protestiadau ffermwyr yn cael eu 'defnyddio i hyrwyddo agendau cudd'

Newyddion S4C 12/03/2024

Pryderon bod protestiadau ffermwyr yn cael eu 'defnyddio i hyrwyddo agendau cudd'

Mae ffermwyr Cymru yn"poeni" bod eu protestiadau diweddar yn cael eu "defnyddio" i hyrwyddo "agendau cudd".

Dros yr wythnosau diwethaf, mae ffermwyr wedi cynnal protestiadau ar draws y wlad i ddangos eu gwrthwynebiad i bolisiau amaethyddol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig, rheoliadau i atal llediad y diciâu mewn gwartheg a rheolau ar lygredd nitradau.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw'n gwrando ar bryderon y sector, wrth i gyfnod ymgynghori ar y cynllun ffermio cynaliadwy ddod i ben ddiwedd wythnos diwethaf.

Rhybuddiodd Undeb Amaethwyr Cymru na ddylid "defnyddio pryderon amaethwyr Cymru fel esgus i wthio safbwyntiau sydd a wnelo nhw ddim oll â dyfodol llwyddiannus i amaeth yng Nghymru."

Dyweddd NFU Cymru bod "ffermwyr Cymru yn haeddu cael eu lleisiau wedi eu clywed yn glir, heb i'w pryderon gael eu cyfuno gyda phwyntiau trafod eraill."

Mae Newyddion S4C wedi siarad â nifer o ffermwyr sydd yn poeni bod unigolion y tu fas i gymunedau amaethyddol yn ceisio defnyddio protestiadau diweddar at ddibenion eraill.

Mae rhai wedi dweud bod unigolion a grwpiau sydd yn gwrthwynebu datganoli a thargedau newid hinsawdd wedi mynychu protestiadau ac wedi bod yn weithgar ar grwpiau ffermio ar y we.

Katie Hopkins

Ddiwedd mis diwethaf, fe wnaeth Ioan Humphreys o Garno ym Mhowys annerch miloedd o ffermwyr mewn rali tu fas i'r Senedd ym Mae Caerdydd.

Yn ddiweddarach, fe feirniadodd y sylwebydd gwleidyddol dadleuol Katie Hopkins wedi iddi gyhoeddi fideo ar gyfryngau cymdeithasol yn cefnogi protestiadau ffermwyr Cymru.

Dywedodd Mr Humphreys bod ffermwyr "am gael yr holl gefnogaeth bosib" ond ei fod yn teimlo "nad ei bwriad creiddiol oedd cefnogi ffermwyr Cymru".

 Mae'n dweud nad yw hi "wedi sôn am ffermwyr" cyn y rali ym Mae Caerdydd bythefnos yn ôl.

"Ry'n ni am gael yr holl gefnogaeth bosibl ond dy'n ni ddim am i bobl wthio agendau eraill gyda hynny," meddai Ioan Humphreys.

"Dwi'n teimlo ei bod hi wedi dweud [yn y gorffennol] bod yr iaith Gymraeg yn farw a bod hi'n wastraff amser dysgu Cymraeg - ydy hi wir yn poeni am ffermwyr Cymru? Neu ydy hwn yn gyfle i bobl roi likes iddi?"

Ychwanegodd: "Ddylai hi dderbyn y feirniadaeth... mae ganddi enw oherwydd ei gorffennol a dwi'n meddwl bod y feirniadaeth yn deg."

Image
Ioan Humphries ac Alun Eilidyr
Ioan Humphreys ac Alun Elidyr

'Dychryn'

Yn wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C fel un o gyflwynwyr Ffermio, mae Alun Elidyr yn ffermio yn Rhydymain ger Dolgellau yng Ngwynedd.

Mae Alun hefyd yn cefnogi'r protestiadau diweddar.

"Da ni wedi cyrraedd lle o undod a chadernid a mae isho cadw'r pwysau, trafod yn rhesymol a bod yn gymesur efo'n gofynion," meddai.

"A phrofi pam bod ni'n gofyn am newid i'r polisïau. Os allwn ni wneud hynny, mae llywodraeth resymol yn mynd i ymateb yn gadarnhaol achos nid lle unrhyw lywodraeth ydy gwneud bywyd ei dinasyddion yn salach." 

Mae Alun hefyd yn poeni bod rhai ffigyrau adnabyddus - gan gynnwys Katie Hopkins - yn ymwneud â'r ymgyrch.

"Os edrychwn ar un enghraifft o rywun sydd yn ddylanwadwr - Katie Hopkins - ddangosodd hi gefnogaeth i'r ffermwyr ac roeddwn i wedi dychryn," meddai.

"Mae'n adnabyddus am gael barn hiliol, eithafol asgell dde, mae wedi ei gwahardd o wefan Twitter... yn y pen draw, dw'i ddim yn meddwl ei bod hi'n beth da i ni fel ffermwyr gael ein cysylltu gyda'r math yma o agweddau.

"Fy mhryder i yn y pen draw ydy bod ni'n gwahanu ein dadl a'n safbwyntiau drwy gysylltu â'r bobl allanol hyn ac yn y pen draw byddwn ni'n colli cefnogaeth y cyhoedd."

'Tyngedfennol'

Er i Newyddion S4C gysylltu â Katie Hopkins, ni ymatebodd hi i ofid y ffermwyr. 

Ar ei chyfrifon ar wefannau cymdeithasol, dywedodd ei bod "o gefndir ffermio", bod ei merch yn ffermio a bod ganddi "hanes hir o gefnogi ffermwyr a pheryglu ei hun wrth wneud."

Mewn datganiad, dywedodd Undeb Amaethwyr Cymru "Yr ydym fel Undeb o’r farn mae brwydr dros ddyfodol Amaeth a chymunedau gwledig Cymru yw’r frwydr dros drefniadau effieithiol i gefnogi’r sector amaeth yn dilyn ein ymadawiad o’r Undeb Ewropeaidd."

"Ni ddylai unrhyw un sydd ag agenda wahanol fod yn defnyddio pryderon Amaethwyr Cymru fel esgus i wthio safbwyntiau sydd â wnelo nhw ddim oll a dyfodol llwyddiannus i amaeth yng Nghymru.”

Dywedodd NFU Cymru: "Mae'n amser tyngedfennol i amaeth yng Nghymru ac mae'n bwysig bod y materion pwysig yma yn cael sylw haeddiannol."

"Mae ffermwyr Cymru yn haeddu cael eu lleisiau wedi eu clywed yn glir heb i'w pryderon gael eu cyfuno gyda phwyntiau trafod eraill, boed hynny yn ddamweiniol neu fel arall."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.