Newyddion S4C

Cyngor yn cael caniatâd i brynu adeiladau'r llywodraeth yng Nghaernarfon

12/03/2024
Swyddfa Llyw Cym Caernarfon

Mae Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau eu bod wedi cael caniatâd i brynu hen adeiladau Llywodraeth Cymru yng Nghaernarfon.

Bwriad y cyngor yw trawsnewid yr adeiladau gwag yn gartrefi i bobl y sir, gan ddarparu cartrefi i hyd at 46 o unigolion a theuluoedd.

Mae safle Swyddfeydd y Goron, sydd yn ardal Penrallt o'r dref wedi bod yn wag ers rhai blynyddoedd, gan fod mwyafrif y staff oedd wedi'i lleoli yno wedi symud i swyddfeydd newydd y llywodraeth yn Noc Fictoria a Chyffordd Llandudno.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor eu bod yn wynebu 2,300 o geisiadau, sydd gyfystyr a bron i 5,000 o bobl, am dai cymdeithasol yng Ngwynedd, gan bwysleisio am yr angen am "fwy o gartrefi o safon i bobl leol."

Fe ychwanegodd y llefarydd: "Ers Ebrill 2023, mae 885 o bobl wedi cyflwyno’n ddigartref yng Ngwynedd ac mae bron i 250 o aelwydydd ar hyn o bryd yn byw mewn llety argyfwng anaddas, megis gwestai neu lety gwely a brecwast."

Image
colditz

Mae’r Cyngor hefyd yn bwriadu cynnwys Hwb Gwasanaethau Tai ar lawr gwaelod yr adeilad.  

Wrth ymateb i'r newydd, dywedodd Aelod o’r Senedd dros Arfon, Siân Gwenllian: “Mae adeilad Llywodraeth Cymru yng nghanol tref Caernarfon wedi bod yn wag yn rhy hir ac mae ei gyflwr yn annerbyniol erbyn hyn. Mae’r cynllun newydd yma yn ddefnydd da iawn o’r adeilad a bum yn codi’r syniad ar lawr y Senedd yn y misoedd diwethaf. 

“Bydd y cynllun yn darparu unedau byw sydd mawr eu hangen ar gyfer y nifer cynyddol o bobl a theuluoedd sydd yn canfod eu hunain heb do uwch eu pennau. Bydd gwasanaethau cefnogol ar gael yn yr adeilad hefyd.” 

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â Cyngor Gwynedd er mwyn cadarnhau beth yw'r union amserlen ar gyfer cwblhau'r pryniant, a chwblhau'r gwaith o addasu'r safle. Dywedodd llefarydd fod disgwyl i'r pryniant gael ei gwblhau cyn diwedd y flwyddyn ariannol.

“O ran amserlen ar gyfer cwblhau’r safle ar ei newydd wedd, ein dyhead yw cwblhau’r gwaith o fewn y tair blynedd nesaf. 

"Unwaith bydd y prynaint yn cwblhau, byddwn yn bwrw ymlaen i edrych ar gynllun gwaith ar gyfer y prosiect ac yn ymgysylltu efo rhanddeiliaid allweddol er mwyn adnabod amserlen.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.