Newyddion S4C

Y ddwy sy'n cwrdd mewn caffi i siarad Cymraeg - yn Ohio

16/03/2024
Kathleen Jackson a Geordan Burress

"Fe gymerodd dros 10 mlynedd o ddysgu Cymraeg i rywun arall o Ohio gysylltu efo fi i ofyn â oedd modd cyfarfod."

Mae Geordan Burress, 33 oed, wedi bod yn rhannu ei phrofiadau â nifer fawr o Gymry Cymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol ers dechrau dysgu'r iaith ddegawd yn ôl  - mae hi hyd yn oed wedi ymweld â rhai ohonyn nhw pan ddaeth i Gymru yn 2019.

Ond tan yn ddiweddar, doedd ganddi neb i siarad Cymraeg â nôl adref yn Ohio.

Trwy lwc, mae wedi dod ar draws menyw arall sy'n byw yn yr un ddinas, Cleveland, sy'n siarad Cymraeg - ac yn byw 15 munud i ffwrdd.

“Er bod gen i nifer o gysylltiadau yng Nghymru, do'n i ddim yn siarad efo nhw mor aml â hynny - byddai’n alwad ar Zoom unwaith bob rhyw fis neu ddau," meddai Geordan Burress.

“Ond nawr, ers i mi gyfarfod Kathleen, mae ond yn cymryd 15 neu 20 munud yn y car i mi gyfarfod â siaradwr Cymraeg, ac mae hynna wir yn cŵl. 

“Dwi’n falch ein bod ni wedi dod o hyd i’n gilydd.”

Dechreuodd Kathleen, menyw 50 oed o Cleveland, Ohio, yn yr Unol Daleithiau, ddysgu Cymraeg yn y tair blynedd diwethaf.

Ac er bod Ms Jackson wedi mwynhau dysgu’r iaith ac wedi gwneud ffrindiau Prydeinig ar ei chwrs, nid oedd ganddi hi neb yn ei hardal i siarad Cymraeg efo nhw.

Ers cyfarfod am y tro cyntaf ym Mehefin 2023, mae’r ddwy bellach yn cyfarfod unwaith bob pythefnos mewn siop goffi i siarad Cymraeg a sgwrsio am Gymru, boed yn deledu neu gerddoriaeth.

'Ysbrydoli'

Dechreuodd Kathleen Jackson siarad Cymraeg yn yatod y pandemig, ar yn ôl gwneud prawf DNA er mwyn dysgu mwy am hanes ei theulu.

Er mawr syndod i Ms Jackson, fe ddarganfyddodd bod ganddi gysylltiadau Cymreig.

“Dw i wrth fy modd yn dysgu pethau newydd, a gan ein bod ni yng nghanol y pandemig fe wnes i benderfynu dysgu iaith newydd," meddai.

“Ro'n i’n hoff iawn o’r ffaith bod y Cymry mor angerddol dros gadw eu hiaith - nid yn unig ydyn nhw am wneud yn siŵr ei bod yn goroesi, ond hefyd yn ffynnu. 

“Wnes i wylio fideo a oedd yn sôn am gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac fe ges i fy ysbrydoli felly wnes i ymuno â chwrs dysgu Cymraeg ar lein.

“Dwi wedi bod yn mynd i ddosbarthiadau ers hynny, a dwi wir wrth fy modd.

"Mae’n hwyl bod yr Americanwr gwyllt yn y dosbarth Cymraeg!"

Dywedodd Ms Jackson ei bod yn hoff iawn o wylio’r opera sebon Pobol y Cwm.

“Mae’n wirion ac yn cheesy, a nes i ddod ar ei draws yn gyntaf ar YouTube," meddai.

“Ro'n i’n ymwybodol bod nifer o bobl yn dysgu Saesneg Americanaidd trwy wylio operâu sebon Americanaidd, felly roeddwn i’n meddwl y byddai yr un peth yn wir pe bawn i’n gwylio operâu sebon Cymreig fel Pobol y Cwm neu Rownd a Rownd.

“Dwi’n teimlo fod gwylio’r rhaglen wir yn fy helpu i ddeall yr iaith, yn enwedig gan fod yr actorion yn siarad yn eithaf clir ac araf, felly mae’n hawdd i mi ddeall be sy’n mynd ymlaen.”

Melys moes mwy

Nid oes gan Ms Burress gysylltiad teuluol â Chymru ond fe benderfynodd ddysgu Cymraeg ar ôl gwrando ar gerddoriaeth gan y cerddor Gruff Rhys.

Mae'n parhau i wrando ar gerddoriaeth Gymreig ac yn hoff iawn o’r cerddorion Cate Le Bon, Gwenno Saunders a Geraint Jarman.

Ar ôl bron i flwyddyn o rannu argymhellion, mae’r ddwy ffrind ar fin croesawu trydydd aelod i’r grŵp, ac yn awyddus i groesawu eraill.

“Os oes mwy o bobl eisiau dod i siarad Cymraeg efo ni, yna byddai hynny’n wych,” meddai Ms Burress.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.