Newyddion S4C

Dyn i ymddangos yn y llys wedi iddo daflu fflêr ar y cae yn ystod gêm Wrecsam

12/03/2024
Cefnogwyr Wrecsam

Mae dyn 29 oed wedi’i gyhuddo ar ôl i fflêr gael ei thaflu ar y cae yn ystod gêm bêl-droed Wrecsam.

Cafodd y ddyfais ei daflu ar y cae yn ystod gêm yn Adran Dau rhwng MK Dons a Wrecsam ar ddydd Mawrth, 20 Chwefror.

Cafodd Adam Edwards o Ffordd Llys Newydd, Wrecsam ei arestio yn ystod y gêm yn dilyn adolygiad teledu cylch cyfyng o'r digwyddiad.

Bellach mae e wedi ei gyhuddo o ddwy drosedd o dan Ddeddf Digwyddiadau Chwaraeon 1985 a bydd yn ymddangos yn y llys yn ddiweddarach y mis hwn.

Dywedodd Swyddog Pêl-droed Ymroddedig Heddlu Gogledd Cymru, Dave Evans bod y ddyfais yn gallu achosi anafiadau difrifol.

“Mae’n ymddangos bod camsyniad ymhlith rhai cefnogwyr nad yw defnyddio’r eitemau hyn yn beryglus iawn ac nid yw hynny’n wir," meddai.

“Mae fflêrs yn eu hanfod yn beryglus ac yn peri risg o anaf difrifol i’r rhai sy’n eu rhyddhau a’r rhai o’u cwmpas, gan gynnwys yn yr achos hwn y chwaraewyr oedd ar y cae.

“Ar unrhyw lefel o bêl-droed, mae defnyddio dyfeisiau o’r fath yn anghyfreithlon, yn anghyfrifol, ac yn beryglus.

“Bydd y rhai sy’n cyflawni troseddau o’r fath yn cael Gorchmynion Gwahardd Pêl-droed yn eu herbyn a allai gyfyngu mynediad i bob gêm bêl-droed.”

Llun: X/CPD Wrecsam

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.