Newyddion S4C

Sêl bendith i adeiladu tai mewn pentref ar Ynys Môn er gwaethaf gwrthwynebiad

12/03/2024
Gwalchmai

Mae cynlluniau i adeiladu tai newydd mewn pentref ar Ynys Môn wedi derbyn sêl bendith cynghorwyr er gwaethaf rhai gwrthwynebiadau.

Roedd y 29 o wrthwynebiadau i’r datblygiad yng Ngwalchmai yn ymwneud â’r bygythiad i’r iaith Gymraeg, a phryder am lifogydd, a thraffig, ymysg pynciau eraill.

Yn ei adroddiad i’r datblygiad dywedodd pennaeth rheoleiddio a datblygu economaidd y cyngor, Sion Hughes, bod natur “fforddiadwy neu resymol” yr unedau wedi eu cymryd i ystyriaeth wrth bwyso a mesur yr effaith ar yr iaith.

Nod y cynnig a gafodd ei gyflwyno gan Amarjit Shoker fydd adeiladu chwech o dai - dau ohonyn nhw yn fforddiadwy - ar Ffordd Caergybi yn y pentref, y tu ôl i’r Swyddfa Bost.

Dywedodd y Cynghorydd Bob Llewelyn Jones: “Fel y gwyddoch, mae Gwalchmai yn bentref Cymraeg ei iaith, a gobeithio os caiff hwn ei basio heddiw y bydd y bobl a fydd yn byw yno yn Gymry Cymraeg.

“Dydw i ddim yn gweld unrhyw beth i’w hatal rhag cael eu hadeiladu.”

Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans: “Mae angen i ni adeiladu tai ar draws Ynys Môn, ac ar gyfer eiddo preswyl yng Ngwalchmai, mae galw sylweddol am dai dwy a thair ystafell wely.”

Ychwanegodd y Cyng John Ifan Jones: “Nid oes cartref fforddiadwy sydd â thair ystafell wely.

“Fydd hynny ddim yn cynnal teulu nac yn helpu’r ysgol”.

Dywedodd ei fod yn teimlo bod y cartrefi “wedi eu stwffio i mewn” a disgrifiodd y dyluniad fel un “trafferthus”.

Image
Gwalchmai

‘Diffygiol’

Dywedodd Oswyn Williams a oedd yn dweud ei fod yn cynrychioli trigolion a chyngor cymuned Gwalchmai, mewn gwrthwynebiad i'r cynigion, bod y fynedfa yn un “anaddas a pheryglus”.

Dywedodd fod “dŵr wedi cronni” yn yr ardal, a disgrifiodd “rhwystrau a llif dŵr,” ac y byddai cysylltu cartrefi â’r “system ddiffygiol hon yn anghyfrifol ac annerbyniol”.

Ond dywedodd Jamie Bradshaw, o Owen Devenport Ltd, a siaradodd o blaid y cynigion, fod “ystyriaeth fanwl” o’r holl faterion wedi’u gwneud.

Dywedodd y byddai’r cynnig yn “cwrdd ag anghenion y gymuned” am gartrefi fforddiadwy a chost is a’u bod mewn “lleoliad hygyrch”.

Pleidleisiodd y cynghorwyr o blaid y cais gyda mwyafrif o bum pleidlais.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.