Charlotte Church wedi ei bygwth ar ôl protestiadau Palestina
Mae Charlotte Church yn dweud ei bod hi wedi ei bygwth gan "bobl frawychus" ers cymryd rhan mewn digwyddiad o blaid Palestina.
Dywedodd y gantores 38 oed o Gaerdydd bod yr heddlu wedi gorfod gwirio ei bod hi’n ddiogel ar ol iddi arwain côr oedd wedi canu cân ddadleuol fis diwethaf.
Roedd y côr yn cynnwys tua 100 o bobl, gyda phlant hefyd yn bresennol wrth iddynt ganu'r gân 'From The River to Sea' yn Neuadd y Gweithwyr, Bedwas.
Mae’r gân yn cyfeirio at y diriogaeth rhwng Afon Iorddonen, sy’n ffinio â’r Lan Orllewinol ac Israel yn y dwyrain, at Fôr y Canoldir yn y gorllewin.
Mae rhai yn credu bod y gân yn galw am ddinistrio gwladwriaeth Israel.
Fe wnaeth y digwyddiad ddenu ymateb chwyrn gan rhai pobl yn y gymuned Iddewig.
Yn ôl y grŵp Ymgyrch yn Erbyn Gwrth-semitiaeth roedd Ms Church wedi defnyddio ei "statws fel seren i ddysgu plant i ganu geiriau eithafol mewn neuadd bentref".
Ddydd Sadwrn roedd Charlotte Church hefyd ymysg miloedd a fu’n gorymdeithio mewn protest o blaid Palesteina yn Llundain.
Mewn datganiad ar ei gwefan dywedodd Charlotte Church ei bod hi wedi wynebu ton o “drais a chasineb” yr wythnos hon.
“Mae’r bygythiadau wedi arwain at yr heddlu yn gorfod dod draw i gadw llygad arom ni,” meddai.
“Mae fy niogelwch a diogelwch fy nheulu wedi cael ei fygwth gan rai pobl eithaf brawychus.”
Dywedodd bod “rhethreg gwleidyddion” a “sylw anghyfrifol yn y cyfryngau” hefyd wedi ychwanegu at y broblem.
Ychwanegodd nad oedd hi’n cefnogi Hamas ac yn condemnio eu hymosodiad ar 7 Hydref.
“Mae fy nghalon i’n mynd allan i ddioddefwr yr ymosodiad, y gwystlon a’u teuluoedd,” meddai.
“Nid yw hynny yn cyfiawnhau'r erchyllterau yn erbyn pobl Palestina.”
Llun gan Jordan Pettitt / PA.