Newyddion S4C

Ariel Henry yn ymddiswyddo fel Prif Weinidog Haiti

12/03/2024
Ariel Henry

Mae Ariel Henry wedi cyhoeddi ei fod yn ymddiswyddo fel Prif Weinidog Haiti yn y Caribî yn dilyn gwrthryfel yn erbyn y llywodraeth.

Mewn fideo yn cyhoeddi ei ymddiswyddiad, mae Mr Henry yn annog pobl Haiti i beidio â chynhyrfu. 

“Bydd y llywodraeth rydw i’n ei harwain yn ymddiswyddo’n syth ar ôl sefydlu cyngor [trosiannol],” meddai.

“Rwy’n dymuno diolch i bobl Haiti am y cyfle rwyf wedi ei gael. Rwy’n gofyn i holl bobl Haiti i beidio â chynhyrfu ac i wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod heddwch a sefydlogrwydd yn dychwelyd i'r wlad cyn gynted â phosib.”

Mae Ariel Henry wedi bod yn arwain y wlad dros dro ers mis Gorffennaf 2021 yn dilyn llofruddiaeth y cyn-arlywydd Jovenel Moïse.

Roedd wedi bod yn gohirio etholiadau dro ar ôl tro, gan ddweud bod yn rhaid adfer diogelwch yn y wlad yn gyntaf.

Ond roedd nifer o bobl Haiti wedi cwestiynu’r ffaith ei fod wedi bod yn llywodraethu’r wlad cyhyd heb arlywydd etholedig.

Mae gangiau arfog trwm wedi rheoli strydoedd prif ddinas Haiti, Port-au-Prince, dros y dyddiau diwethaf gan fynnu ymddiswyddiad y Prif Weinidog. 

Ar hyn o bryd, mae Mr Henry yn Puerto Rico ar ôl cael ei atal gan gangiau arfog rhag dychwelyd i Haiti.

Llun: Wikimedia Commons

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.