Newyddion S4C

Cynghori 40 o deuluoedd i adael eu cartrefi oherwydd concrit RAAC

11/03/2024
RAAC Hirwaun

Mae 40 o deuluoedd yn Rhondda Cynon Taf wedi cael cyngor i adael eu cartrefi yn syth, ar ol i olion concrit RAAC gael eu darganfod ynddyn nhw.

Mae cymdeithas dai Trivallis yn dweud bod problem wedi dod i'r amlwg mewn cartrefi y maen nhw'n gyfrifol amdanyn nhw yn Hirwaun.

Dangosodd arolwg bod perygl go iawn i'r to a'r nenfwd mewn dau dŷ, ond penderfynodd Trivallis i symud trigolion o 38 o dai eraill sydd â'r un cynllun.

Daeth pryderon i'r amlwg am goncrit RAAC y llynedd, oherwydd ofnau y gallai chwalu a dymchwel.  

Tŷ Christine Williams ar Langland Close oedd ymhlith y cyntaf i gael arolwg, a hithau wedi “synnu” gan y cyhoeddiad nos Lun.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd: “Roedd Trivallis eisoes wedi dod i wneud arolwg a gwirio’r nenfwd yn yr ystafelloedd gwely ac fe ‘nathon nhw dynnu’r architraving yn yr atic… ond dwi ddim ‘di clywed unrhyw beth yn rhagor tan heddiw.

“Maen nhw wedi gofyn i ni adael heno ond ‘dyn ni gyd wedi gwrthod.

“’Nathon nhw ddweud bod tŷ fi’n risg uchel a dyle’ fi adael heno.

“Ond dwi am aros mor hir ag y gallai. Nes bod nhw’n dweud wrthyf fod rhaid i mi adael, dwi am aros,” meddai. 

Image
wal Christine Williams
Wal Christine Williams wedi'r arolwg

Mewn datganiad dywedodd cwmni Trivallis mai diogelwch tenantiaid yw eu prif flaenoriaeth. 

Er mwyn "gwarchod tenantiaid," maen nhw'n cynghori bobol sy'n byw yn y cartrefi penodol hyn yn Hirwaun i symud allan o'u cartrefi ar unwaith. 

Mae Trivallis wrthi'n dod o hyd i lety dros dro ar gyfer y tenantiaid, a bydd arolwg yn cael ei gynnal er mwyn asesu yr hyn sydd angen ei wneud i'r adeiladau, gan sicrhau eu bod yn ddiogel. 

'Pryder'

Mae’r cyhoeddiad wedi peri “gofid” i’r holl denantiaid yno, meddai Helen Simons a’i chymydog Leanne Davies.

“Mae hyn yn mynd i gael effaith enfawr ar bopeth, ein hiechyd meddwl, ein gwaith, ein teulu – dydyn ni ddim yn gwybod lle ‘dyn ni am fod,” meddai Leanne Davies wrth siarad â Newyddion S4C.

“Y plant sy’n cael eu heffeithio hefyd, mae pobl yn pryderu am yr oedolion ond ‘dyw e ddim jyst ni - y plant hefyd.

Mae pobl wedi bod yn crio…  'dyn ni ddim yn gwybod am faint ‘dyn ni am fod allan o’n cartrefi,” ychwanegodd Ms Simons. 

'Cyfnod heriol' 

Dywedodd y Prif Weithredwr Duncan Forbes: “Ry'n ni'n deall fod hwn yn gyfnod pryderus i'r tenantiaid, ond eu diogelwch yw ein prif flaenoriaeth. 

“ Mae Trivallis yn deall difrifoldeb y sefyllfa yn llwyr, a'r effaith ar breswylwyr. Rydym yn gwerthfawrogi dealltwriaeth a chydweithrediad ein preswylwyr a'r gymuned yn ystod y cyfnod heriol hwn." 

Mae tenantiaid sydd yn awyddus i symud ar unwaith wedi cael cynnig llety mewn gwesty gerllaw, medd y cwmni. Mae'n bosibl y bydd eraill yn aros gyda ffrindiau neu deulu. 

Cafodd planciau concrit RAAC hefyd eu darganfod yn Ysbyty Llwynhelyg yn Sir Benfro fis Awst, gyda chwe ward yn cau dros dro.

Fe gafodd tri o’r wardiau eu hail-agor fis Rhagfyr, wrth i’r gwaith adfer barhau yng ngweddill y wardiau.

Mae'r concrit dan sylw mewn pum ysgol yng Nghymru hefyd, ac fe gyhoeddodd y Gweinidog Addysg Jeremy Miles yn gynharach ddydd Llun y bydd Llywodraeth Cymru yn talu am holl waith atgyweirio RAAC yn yr ysgolion hynny.

Bydd y pecyn cyllido yn cynnwys £2.56m i dalu am gostau'r gwaith adfer, meddai'r llywodraeth.  

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.