Newyddion S4C

Beirniadu'r gost o wylio gemau'r Chwe Gwlad yn Stadiwm y Principality

11/03/2024

Beirniadu'r gost o wylio gemau'r Chwe Gwlad yn Stadiwm y Principality

"Mae'n rhyfeddol - y golygfeydd mas yn Stadiwm y Principality."

Hyd yn oed mewn cyfnod llai llwyddiannus i Gymru mae seddi Stadiwm y Principality bron yn llawn ond mae cefnogwyr wedi beirniadu'r gost o wylio Cymru ar adeg pan mae prisiau popeth yn codi.

"Mae rhywbeth wedi mynd o'i le pan ti'n meddwl am faint mae pobl yn neud efo costau byw dyddiau 'ma.

"Dydy o ddim yn realistig i lawer iawn o bobl yng Nghymru."

Cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru bod prisiau tocynnau i'r Chwe Gwlad eleni wedi eu cadw i'r lefel ag o'n nhw yn 2022.

Ar eu hisaf, mae'n bosib i blant fynychu am £20 ac oedolion am £40 ond ar eu huchaf, mae tocynnau yn gwerthu am £115 yr un.

Mae tua 10,000 o seddi ar lefel uwch y stadiwm wedi gweld gostyngiad i'w pris eleni.

I bobl sy'n teithio i Gaerdydd am y gêm, mae 'na gostau di-ri.

"Mae pobl o'r gogledd a'r gorllewin yn gorfod meddwl am drafnidiaeth a wedyn maen nhw'n gorfod meddwl am lle maen nhw am aros a wedyn ar ben hynna, fyddi di'n lwcus iawn i ffeindio peint o gwmpas y stadiwm am llai na £5."

Mae 'na docynnau ar ôl ar gyfer gêm dydd Sul ac mae clybiau rygbi hefyd i'w gweld yn ceisio gwerthu eu siâr nhw ar y cyfryngau cymdeithasol gan gynnig gostyngiad o 25% ar y prisiau swyddogol.

"Mae 'na deals mas yna i bobl a teuluoedd a falle pobl o dan 18.

"Os fydde Cymru nawr wedi ennill y tri gêm gynta bydden i'n rhoi arian mawr i chi bydde'r gêm yna wedi gwerthu mas wythnosau nôl."

Mewn datganiad, dywedodd yr Undeb eu bod yn gweithio i wneud yn siŵr bod gymaint o gefnogwyr a phosib yn gallu gweld gemau ac eu bod yn hyderus y bydd y stadiwm ddydd Sul bron yn llawn.

# I bob un sydd ffyddlon #

Mae 'na fanteision economaidd i'r ddinas bob tro mae'r Principality dan ei sang.

"Mae bob gêm Chwe Gwlad yn rhoi boost o £20 miliwn i economi Cymru.

"Mae 'na ryw fath o ymchwil wedi'i wneud pedair, pum mlynedd yn ôl bod o 'di dod a bron i £3 biliwn o arian i fewn dros ugain mlynedd."

Mae costau gwylio rygbi, fel costau byw, yn uchel iawn i nifer a rhai yn ei gweld hi yn anoddach fyth i dalu am y fraint i wylio Cymru a hynny hyd yn oed os yw'r tîm yn ennill neu beidio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.