Pleidleisio i newid enw Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth i un Cymraeg yn unig
Mae myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wedi pleidleisio i newid enw yr undeb myfyrwyr i un Cymraeg yn unig.
Cafodd y newid ei benderfynu mewn ‘Cyfarfod Mawr’ o 150 o fyfyrwyr yr wythnos diwethaf.
Bydd enw Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth / Aberystwyth Students’ Union yn cael ei adnabod o dan yr enw Undeb Aberystwyth o hyn ymlaen.
Pleidleisiodd 81% o’r myfyrwyr a ddaeth i'r cyfarfod o blaid newid yr enw.
Elain Gwynedd, Swyddog Diwylliant Cymru a Llywydd UMCA a gyflwynodd y syniad i’w drafod a chynnal pleidlais.
Dywedodd fod newid yr enw yn adlewyrchu hunaniaeth Gymreig a Chymraeg yr Undeb.
“Mae’r newid hwn yn garreg filltir bwysig yn hanes yr Undeb ac yn dangos ein hymrwymiad tuag at y Gymraeg,” meddai.
“Yr oedd yn uchelgais gennyf i newid yr enw er mwyn adlewyrchu endid Cymraeg yr Undeb Myfyrwyr ac rwy’n hynod ddiolchgar bod y cynnig wedi’i basio yn y Cyfarfod Cyffredinol gyda mwyafrif sylweddol.
“Braf oedd gweld aelodau o Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth yn dod i gefnogi’r cynnig.
“Mae eleni’n flwyddyn bwysig iawn yn hanes UMCA gan ein bod yn dathlu hanner can mlynedd, a felly mae llwyddo i newid enw’r Undeb ehangach i un uniaith Gymraeg yn goron ar ein dathliadau.”
Daw’r datblygiad wedi i undeb Aberystwyth gipio teitl pencampwyr yr Eisteddfod Ryng-golegol am y tro cyntaf ers 2015 ddechrau’r mis.
Roedd Prifysgol Bangor wedi ennill wyth Eisteddfod yn olynol cyn cael eu trechu gan Aberystwyth.
Prifysgol Abertawe gynhaliodd yr Eisteddfod eleni, a hynny am y tro cyntaf ers 2019, gyda dros 500 o fyfyrwyr yn cystadlu.