‘Honiadau o fwlio’ yn parhau o fewn gwasanaethau tân y gogledd a’r canolbarth a'r gorllewin
Mae gweinidog yn Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod hi’n parhau i glywed am "honiadau o fwlio" a chamymddwyn o fewn gwasanaethau tân y gogledd, a chanolbarth a gorllewin Cymru.
Daw wedi i’r llywodraeth benodi pedwar comisiynydd i fod yn gyfrifol am redeg Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Roedd hynny’n dilyn adroddiad damniol a ddatgelodd “lefelau parhaus o gamymddygiad gan staff”.
Dywedodd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, ddydd Llun fod gwasanaethau tân ac achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gogledd Cymru bellach dan y chwyddwydr.
Roedd hi’n “parhau i dderbyn gohebiaeth gan weithwyr presennol a chyn-weithwyr y ddau sefydliad, gan gynnwys honiadau o fwlio, aflonyddu rhywiol a dangos ffafriaeth wrth gynnig dyrchafiadau,” meddai.
‘Adolygu’
Dywedodd Hannah Blythyn fod y ddau wasanaeth tân wedi cytuno i gynnal adolygiad annibynnol a chymryd i ystyriaeth ganfyddiadau Fenella Morris KC yn achos gwasanaeth tan ac achub y de.
Roedden nhw hefyd wedi cytuno i gynhyrchu adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi'n llawn, ac eithrio unrhyw fanylion lle y gellid adnabod unigolion, meddai.
“Mae'r ddau sefydliad wedi cychwyn ar raglenni cynhwysfawr i adolygu a gwella eu diwylliannau sefydliadol,” meddai Hannah Blythyn.
“Ceir rhai enghreifftiau o arfer da yn y ddau wasanaeth, er enghraifft, mae gan bob gorsaf dân yng Ngogledd Cymru swyddog cymorth pwrpasol y gall staff siarad â nhw yn gyfrinachol, ac yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, mae gan unrhyw weithiwr yr hawl i godi unrhyw fater gyda rheolwyr ar unrhyw lefel.
“Fodd bynnag, rwy'n parhau i dderbyn gohebiaeth gan weithwyr presennol a chyn-weithwyr y ddau sefydliad, gan gynnwys honiadau o fwlio, aflonyddu rhywiol a dangos ffafriaeth wrth gynnig dyrchafiadau.
“Mae angen rhoi tawelwch meddwl i'r cyhoedd am y diwylliant a'r arferion rheoli cysylltiedig yn ein gwasanaethau tân ac achub ac mae angen i staff gael sicrwydd bod ganddynt fodd diogel ac effeithiol i rannu eu profiadau, boed hynny'n brofiadau da neu ddrwg, yn eu sefydliad.”
Fe wnaeth Prif Swyddog Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru gamu o'r neilltu ym mis Ionawr yn dilyn cyhoeddi adolygiad allanol damniol o ddiwylliant y gwasanaeth.
Cafodd yr adolygiad allanol ei gynnal i Wasanaeth Tân De Cymru yn dilyn honiadau o aflonyddu rhywiol a cham-drin menywod gan ddiffoddwyr tân.
Cafodd 450 aelod o staff a 60 o gyn-aelodau'r gwasanaeth eu holi fel rhan o'r adolygiad.
Daeth yr adolygiad i'r casgliad bod "diffygion difrifol" yn y gwasanaeth, gan gynnwys cyfathrebu, systemau, polisïau a gweithdrefnau gwael; modelau rôl annigonol gan arweinwyr a rheolwyr; a diffyg tryloywder mewn gweithdrefnau recriwtio a dyrchafu.
Ychwanegodd yr adroddiad hefyd bod diffyg amrywiaeth o fewn y gwasanaeth, ac roedd ymddygiad problematig yn cael ei ddioddef, gan gynnwys aflonyddu rhywiol, cam-drin domestig ac ymddygiad ymosodol corfforol y tu allan i'r gwaith; bwlio, ‘cellwair’ niweidiol, cam-drin cyffuriau ac alcohol, ac ymyrraeth amhriodol â gweithdrefnau.