Newyddion S4C

Y cyn AS Ceidwadol Lee Anderson yn ymuno gyda Reform UK

Lee Anderson

Mae'r cyn AS Ceidwadol Lee Anderson wedi ymuno gyda'r blaid Reform UK.

Cafodd y cyn-ddirprwy gadeirydd ei wahardd gan y blaid Geidwadol fis Chwefror ar ôl iddo "wrthod ymddiheuro” am honni bod Sadiq Khan yn cael ei reoli gan Islamwyr.

Wrth siarad mewn cynhadledd i'r wasg dywedodd y byddai nawr yn gallu codi ei lais ar gyfer y "rhai hynny sydd yn teimlo bod neb yn gwrando arnyn nhw."

Dywedodd: "Mi fydd pobl yn dweud fy mod i wedi cymryd siawns. Dwi'n barod i fentro, am fy mod i yn gwybod o'r negeseuon dwi'n ei dderbyn, faint o bobl yn y wlad yma sydd yn cefnogi Reform UK a'r hyn sydd gan y blaid i'w dweud. 

"Fel miloedd o bobl ar hyd y wlad yr unig beth dwi eisiau i'w fy ngwlad yn ôl."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.