Arestio dyn wedi i'w gerbyd daro giatiau Palas Buckingham
Mae dyn wedi’i arestio ar ôl i'w gerbyd daro giatiau Palas Buckingham.
Arestiodd swyddogion arfog y dyn ar amheuaeth o ddifrod troseddol ac fe gafodd ei gludo i’r ysbyty, meddai Heddlu'r Met.
Ar ôl cael ei asesu, cafodd y dyn ei gadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.
Mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth, meddai’r llu.
Dywedodd Scotland Yard fod ei gar wedi “gwrthdaro giatiau” y palas brenhinol am 02.30 fore ddydd Sadwrn.
Doedd dim adroddiadau am unrhyw anafiadau, meddai llefarydd ar ran yr heddlu, gan ychwanegu bod ymholiadau’n parhau i sefydlu amgylchiadau’r digwyddiad.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu’r Met: “Am tua 2.35am ddydd Sadwrn Mawrth 9, bu car mewn gwrthdrawiad â gatiau Palas Buckingham.
“Arestiodd swyddogion arfog ddyn yn y fan a’r lle ar amheuaeth o ddifrod troseddol.
“Cafodd ei gludo i’r ysbyty lle, yn dilyn asesiad, cafodd ei rgadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.
“Mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth ac mae ymholiadau’n parhau.
“Nid yw’r mater yn cael ei drin fel un sy’n ymwneud â therfysgaeth.”
Llun: PA