Newyddion S4C

Trenau Cymru: ‘Cwestiynu fy lle i fel person anabl mewn cymdeithas’

Y Byd ar Bedwar 11/03/2024

Trenau Cymru: ‘Cwestiynu fy lle i fel person anabl mewn cymdeithas’

Mae menyw ifanc wedi dweud bod hygyrchedd trenau Trafnidiaeth Cymru yn gwneud iddi gwestiynu ei "lle fel person anabl mewn cymdeithas". 

Mewn cyfweliad â’r rhaglen materion cyfoes Y Byd ar Bedwar mae Elin Williams, o Eglwysbach ger Llandudno, wedi dweud fod y gwasanaeth ychwanegol sydd ar gael i’r gymuned anabl “ddim cant y cant yn gweithio”.

“Dydy’r cymorth ddim wastad yn troi fyny, sydd wir yn effeithio ar fy hyder i a pha mor gyfforddus ydw i’n teimlo’n trafeilio.

“Mae o mor bwysig o ran annibyniaeth a galluogi i fi fynd o un lle i’r llall, ac mae’n bwysig bod y gwasanaeth cymorth yn gweithio fel bo fi’n cael cadw’r annibyniaeth yna."

Image
Elin Williams
Llun: Y Byd ar Bedwar

Mae gan Elin nam golwg o’r enw retinitis pigmentosa, sy’n dirywio dros amser. Mae hi’n gallu gweld golau a lliwiau, ond heb unrhyw fanylder. Felly, mae’n dibynnu ar wasanaethau trên lleol i’w chludo’n ddiogel. 

Mae Elin yn defnyddio ap o’r enw Cymorth i Deithwyr i nodi pa help mae hi ei angen pan fydd hi’n bwcio i fynd ar drên. Dyma gynllun sydd, mewn partneriaeth â Network Rail, yn cefnogi teithwyr anabl ar drenau ar draws Prydain Fawr.

Pan fydd cais yn cael ei gymeradwyo am gymorth ar drên Trafnidiaeth Cymru, staff y cwmni sydd fod i ddarparu'r help.

Image
Elin Williams
Llun: Y Byd ar Bedwar

Wrth fwcio, mae Elin yn dewis ‘help finding seat, sighted guidance’ a ‘request priority seat’ fel ei hanghenion. Mae hi hefyd yn ychwanegu ar waelod y cais: ‘I need to be guided to the platform, onto the train to my seat, and off the train.’ 

Ar y rhaglen, fe wnaeth Elin gofnodi’r cymorth gafodd ar daith o Gyffordd Llandudno i’r Rhyl. 

Fe wnaeth aelod o staff gwrdd â hi yn yr orsaf a’i thywys i sedd benodol, a dweud y byddai’n cysylltu â’r tîm yn Y Rhyl i wneud yn siŵr eu bod yn ymwybodol bod Elin ar ei ffordd. 

Mae Elin yn cael ei rhoi mewn sedd benodol er mwyn gwneud hi’n haws dod o hyd iddi pan fydd staff yn ei hebrwng oddi ar y trên. 

Fodd bynnag, er iddi ddisgwyl ar ôl i’r trên stopio, nid oedd yna aelod o staff wedi ei chasglu. Roedd yn rhaid iddi fentro i’r platfform ar ei phen ei hun. Dyma ‘ran anoddaf y daith’, yn ôl Elin. 

Image
Elin Williams
Llun: Y Byd ar Bedwar

Ychydig ar ôl iddi droedio ar y platfform, fe wnaeth aelod o staff ddod i gwrdd â hi’n hwyr, i sicrhau ei bod hi’n iawn. 

Nid yw hyn yn rhywbeth estron i Elin, sy’n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer gwaith ac er mwyn cymdeithasu. 

“Mae’n brofiad reit gyffredin,” meddai 

“Does yna neb erioed wedi dod ar y trên i ddod i’n ôl fi a’m helpu i ffwrdd. Dwi’n meddwl mae o’n ategu’r ffaith fod hawliau pobl anabl i drafeilio ddim yn cael eu considro.

“Pan dwi’n bwcio’r cymorth yna, dwi’n gofyn am yr help yna i allu dod i ffwrdd o’r trên, ac wedyn i fynd allan o’r orsaf. Ond, wnaeth hynny ddim digwydd heddiw.” 

Pan ofynnwyd iddi grynhoi ei theimladau am y daith benodol honno, dywedodd fod y profiad “ddim yn berffaith, ond mi oedd yna agweddau cadarnhaol… ond mae yna le i wella o hyd.”

Image
Elin Williams
Llun: Y Byd ar Bedwar

Mewn cais rhyddid gwybodaeth gan Y Byd ar Bedwar, roedd nifer y cwynion am hygyrchedd y gwasanaeth y llynedd wedi mwy na dyblu ers 2021. 

Yn ôl Elin, mae hi wedi ysgrifennu at Drafnidiaeth Cymru sawl gwaith dros y blynyddoedd gyda phryderon am hygyrchedd y gwasanaeth. 

“Dwi erioed wedi cael ymddiheuriad neu esboniad pan dwi wedi cwyno am y gwasanaeth,” meddai. 

“Mae gennym ni hawl i wasanaeth hygyrch a chyfartal i wneud yn siŵr ein bod ni’n gallu cael mynediad at gymdeithas fel pawb arall heb orfod wynebu rhwystrau,” meddai.

“Ond, wrth gwrs, pan dydy’r hawliau yna ddim yn cael eu gweithredu, mae’r hawliau yna’n cael eu difetha, mewn ffordd.”

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru eu bod wedi “ymrwymo i wella hygyrchedd mewn gorsafoedd ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau, ac mae ein gwaith wedi’i arwain gan arbenigwyr ymroddedig sy’n ein cynghori ar sut i gefnogi cwsmeriaid anabl […] i ddefnyddio ein gwasanaeth yn effeithiol.”

Gwyliwch raglen Y Byd ar Bedwar yn llawn am 20.00 nos Lun ar S4C, Clic a BBC iPlayer.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.