Newyddion S4C

Mwy na miliwn o funudau o oedi i drenau Trafnidiaeth Cymru y llynedd

Y Byd ar Bedwar 10/03/2024

Mwy na miliwn o funudau o oedi i drenau Trafnidiaeth Cymru y llynedd

Fe wnaeth gwasanaethau trên Trafnidiaeth Cymru brofi mwy na miliwn o funudau o oedi yn 2023 - sydd gyfystyr â 660 o ddyddiau.

Daw hyn fel rhan o ymchwil y rhaglen materion cyfoes,Y Byd ar Bedwar i safon y gwasanaeth trafnidiaeth cyhoeddus. 

Dyma’r flwyddyn waethaf ers i Trafnidiaeth Cymru gymryd rheolaeth o rwydwaith Cymru a’r Gororau yn 2018.

Mewn ymateb i gais rhyddid gwybodaeth, roedd mwy na 83,000 o achosion wedi codi ers 2020 lle’r oedd pobl wedi mynegi eu hanfodlonrwydd gyda’r gwasanaeth. 

Un gymuned sydd wedi bod yn rhwystredig ynghylch y drafnidiaeth gyhoeddus leol yw Maesteg, ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gyda rhai yn dweud eu bod nhw’n teimlo’n “styc” yno. 

Image
Elin Williams

Mae Aled Williams wedi bod yn cofnodi ei brofiadau ers mis Rhagfyr yn defnyddio trenau Trafnidiaeth Cymru i deithio o’r dref i Ben-y-bont, Caerdydd a Chasnewydd. 

Yn ystod ei deithiau, mae’r trenau wedi bod yn hwyr, yn orlawn, mae e wedi colli cysylltiadau i drenau eraill ac mae rhai wedi cael eu canslo’n gyfan gwbl heb drafnidiaeth amgen. 

Yn ôl Aled, mae’r gwasanaeth trên lleol yn “annibynadwy”.

“Weithiau, byddwch chi’n aros ar y platfform, ac wedyn bydd hysbysiad yn dweud bod [y trên] yn hwyr, ac wedyn hwyrach, ac wedyn hwyrach - ac wedyn, dyw e ddim yn dod o gwbl. Ond fyddai ddim rhybudd o flaen llaw fod e ddim yn dod, ac un trên yr awr sydd. 

“Mae’n digwydd yn fwyfwy aml yn ddiweddar,” meddai. “Ond, mae dod ‘nôl yn anoddach na mynd i rywle.” 

Ar hyn o bryd, yn ystod yr wythnos, mae’r trên o Faesteg i Gaerdydd yn mynd bob awr. Mae modd dal bws yn ystod y dydd hefyd; ond, yn dilyn toriadau, nid oes modd dal bws o Ben-y-bont i gyrraedd Maesteg ar ôl 5:30yh.

Mae nifer o deithwyr rheolaidd wedi dweud wrth Y Byd ar Bedwar bod y trên yn dod i ddiwedd ei daith yn ddirybudd yn Nhondu a ddim yn cyrraedd Maesteg. 

Mae hyn oherwydd mai trac sengl sy’n cysylltu gorsafoedd Tondu â Maesteg, felly nid oes modd i ddau drên basio yma os oes un yn rhedeg yn arbennig o hwyr. 

Image
tren

Dywedodd Aled Williams bod y sefyllfa ddim digon da i deithwyr sydd yn awyddus i fynd adref. 

“Ar y trên, byddai hynny’n cymryd deg munud, chwarter awr. Does dim modd cerdded,” meddai. 

“Yn aml, mae pobl jyst yn gorfod eistedd yn Nhondu a gobeithio bydd trên arall yn dod, neu ofyn am lifft neu gael tacsi felly byddai hynny’n costio pymtheg/ugain punt mewn tacsi ‘swn i’n dweud - os y’ch chi’n gallu cael un o gwbl. 

“Mae pobl jyst yn stranded lle bynnag mae’r trên yn penderfynu stopio.

“Ry’n ni’n dref fach gyda threfi mawr o’n hamgylch ni: Port Talbot, Abertawe, Caerdydd, Penybont.

Er gwaetha’r ffaith fod hon yn broblem reolaidd i Aled, nid yw’r car yn opsiwn iddo. 

“Mae yna lot o bobl yma sydd ddim yn gyrru, mae’n ardal eithaf tlawd.”

Nid yw bron i un ym mhob pump o aelwydydd Pen-y-Bont ar Ogwr yn berchen ar fan neu gar, ac yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, mae Maesteg yn cael ei ystyried ardal adeiledig mewn amddifadedd hirsefydlog.

“Dwi’n gwybod bydda’i ffaelu fforddio car na gwers yrru i fod yn onest.

“Dwi’n ddibynnol ar y gwasanaethau yma, a dy’n nhw ddim yn gweithio - maen nhw’n mynd yn waeth ac yn waeth.”

Arolwg

Yn ôl arolwg barn YouGov, gafodd ei gomisiynu gan ITV Cymru Wales fis Rhagfyr 2023, pan ofynnwyd i dros 1,000 o ymatebwyr beth oedden nhw’n ei feddwl am wasanaethau trên Trafnidiaeth Cymru, fe wnaeth 45% ddweud eu bod yn annibynadwy. 

Fel rhywun sydd wedi colli apwyntiadau o ganlyniad i’r gwasanaeth lleol, mae Aled wedi gorfod cynllunio’n fwy gofalus am deithiau pwysig. 

“Os oes apwyntiad gennyf i yn yr ysbyty ym Mhen-y-bont, neu rywbeth fel yna, dwi’n tueddu i fynd awr ynghynt, jyst i wneud yn siŵr bod modd i fi gyrraedd yna o gwbl.

“Mae’n effeithio ar bobl pan maen nhw’n trial ffeindio swydd. 

“Does dim pwynt iddyn nhw ffeindio swydd lle bydden nhw ffaelu cyrraedd adref o’r gwaith - neu os nag y’n nhw’n cael eu talu ddigon i fforddio’r tacsi’n ôl, mae’n well iddyn nhw jyst eistedd yn y tŷ.

Mewn cyfweliad, dywedodd Gethin Jones, Rheolwr Materion Cyhoeddus Trafnidiaeth Cymru, fod y “pryderon yn rhai dilys iawn”.

Image
tfw

“Ry’n ni’n gwybod bod yna le i wella gwasanaethau yn yr ardal yma’n benodol - a dyna pam ry’n ni wedi buddsoddi, ers 2018, £800 miliwn mewn fflyd newydd o drenau, gwella gorsafoedd.”

Fe wnaeth y cwmni gyhoeddi y byddai trenau newydd dosbarth 197 yn rhedeg ar y llinell o’r 19eg o Chwefror. Er hyn, mae nifer o deithwyr wedi dweud wrth Y Byd y Bedwar, nad ydyn nhw wedi gweld newid i ddibynadwyedd y gwasanaeth ers hynny. Mae rhai hefyd wedi bod ar siwrneiau ar yr hen drenau dosbarth 150 ers y cyhoeddiad. 

Fe wnaeth Gethin ychwanegu: “Y gobaith ydy erbyn diwedd y flwyddyn yma ac mewn i ddechrau’r flwyddyn nesa, bydd yna fflyd penodol ar gyfer Maesteg i Gaerdydd yn rhedeg. 

“O ran y buddsoddiad ry’n ni wedi’i wneud, ac ers i Drafnidiaeth Cymru gymryd dros y fasnachfraint yn 2018, mi oedd yna gyfnod lle ry’n ni wedi etifeddu hen fflyd o drenau, er enghraifft.

“Mae’n reit amlwg bod sawl blwyddyn lle doedd yna ddim digon o fuddsoddiad yn y rheilffyrdd yng Nghymru’n benodol.

“Felly, mae’n dda o beth bod trafnidiaeth yn bodoli a’n bod ni’n cydweithio gyda Llywodraeth Cymru, i sicrhau bod Cymru’n cael y gorau a bod y cyllid yn medru dod i Gymru ar gyfer y gwelliannau mae Cymru’n eu haeddu ar gyfer y dyfodol. 

Fe wnaeth e ychwanegu: “Nid dros nos mae newid rheilffordd, ac yn amlwg ry’n ni’n gwybod faint o waith sydd o’n blaenau ni. Ond, beth sy’n dda ydy mae’r gwaith yma’n digwydd rŵan.”

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae hwn wedi bod yn gyfnod heriol i’r rheilffyrdd ond mae’n bwysig cydnabod bod perfformiad wedi gwella dros y misoedd diwethaf.

“Byddwn yn parhau i fuddsoddi a gweithio i ddarparu system drafnidiaeth integredig a chynaliadwy o ansawdd uchel.”

Gwyliwch raglen Y Byd ar Bedwar yn llawn am 20.00 nos Lun ar S4C, Clic a BBC iPlayer.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.