Newyddion S4C

Cwpl yn cynnal seremoni briodas ar drên i Abertawe

09/03/2024
Priodi tren

Mae cwpl a wnaeth gyfarfod ar drên ac a rannodd eu cusan cyntaf ar drên wedi priodi ar daith ar y cledrau o Lundain i Abertawe.

Cynhaliodd Leah, 38, a Vince Smith, 39, eu priodas gyfan ar drên arbennig y Great Western Railway (GWR) ddydd Gwener, a gychwynnodd o orsaf Paddington Llundain gan gludo'r parti priodas yr holl ffordd i dde Cymru.

“Mae wedi bod yn anhygoel. Mae GWR wedi bod mor wych ac mae popeth maen nhw wedi'i wneud, y trefnu, yn wych. Mae fel gwireddu breuddwyd, ”meddai Mr Smith wrth asiantaeth newyddion PA.

Roedd y daith yn cwmpasu’r holl draddodiadau priodasol arferol – o’r addunedau priodas a lluniau’r teulu i bryd tri chwrs gydag areithiau – ar ôl i’r trên chwarae rhan ganolog yn eu perthynas.

Fe wnaeth y cwpl, o Farncombe ger Guildford, Surrey, gyfarfod am y tro cyntaf yn 2016 ar drên GWR o Wokingham i Reading wrth iddynt deithio am eu dêt cyntaf gyda’i gilydd, cyn cael eu cusan cyntaf ar drên, a defnyddio’r gwasanaeth i ymweld â'i gilydd yn gyson.

Diolch

Roedd y pâr, sydd wedi bod gyda'i gilydd ers wyth mlynedd, eisiau rhoi arwydd o ddiolch bach i'r cwmni trên wrth briodi felly fe wnaethant gysylltu â thîm cyfryngau cymdeithasol GWR i weld a allent ddarparu canolbwynt ar gyfer eu priodas.

“Cyrhaeddodd GWR yn ôl aton ni yn gyflym iawn ac... roeddech chi'n gallu gweld eu bod yn ceisio gwthio am rywbeth arbennig i ni, ac yn amlwg fe ddatblygodd yn y pen draw i'r diwrnod anhygoel hwn,” meddai Mr Smith.

Gan ddechrau fore Gwener, cafodd Ms Smith ei gwallt a'i cholur wedi'i wneud yn lolfa'r Frenhines Victoria ar blatfform un yng ngorsaf Paddington tra bod Mr Smith yn paratoi yn hen ystafell fwrdd GWR yr orsaf.

“Dw i’n meddwl bod y rhan yna yn eitha arbennig achos mae’n rhan o Paddington wnaeth oroesi ar ôl bomio’r Ail Ryfel Byd,” meddai.

“Fe es i ar y trên ac yna yn amlwg fe wnes i osod y gweinidog a phopeth yn y cerbyd blaen gan aros i Leah ymuno,” meddai Mr Smith.

Dywedodd Ms Smith: “Pan oedd pawb ar y trên cerddais i lawr y platfform gyda fy nhad a fy nau blentyn hynaf, ac roedd yna lawer o bobl yn clapio a bloeddio, ac roedd yn swreal iawn.”

Oddi yno, aeth y seremoni gyda 14 o westai yn ei blaen a chyfnewidiodd y cwpl y modrwyau wrth i'r trên wneud ei ffordd i Reading.

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.