Newyddion S4C

Gorchymyn dyn o Feifod i dalu bron i £1,000 am droseddau pysgota anhyfreithlon

09/03/2024
potsiwr Meifod

Mae dyn o Feifod ym Mhowys wedi cael ei orchymyn i dalu bron i £1,000 am droseddau pysgota anghyfreithlon.

Cafodd yr ymchwiliad ei gynnal wedi adroddiad o bysgota anghyfreithlon yn yr Afon Banwy gan aelod o'r cyhoedd.

Ychydig yn ddiweddarach, fe gafodd Rolands Bartkevics o Feifod ei adnabod fel person o dan amheuaeth.

Cafodd gwarant chwilio ei gweithredu o dan bwerau'r heddlu yng nghyfeiriad Mr Bartkevics, ac fe ddaeth tystiolaeth i'r amlwg o drin eogiaid yn anghyfreithlon.

Yn ystod yr ymchwiliad, fe gafodd lluniau eu datgelu o Mr Bartkevics yn dal eogiaid ar ei gyfrif cyfryngau cymdeithasol. 

Cyfaddefodd Mr Bartkevics mai ef oedd wedi dal y pysgod yn y lluniau, ond fe wnaeth ddadlau mai nid y dyddiad a gafodd y llyniau eu postio oedd y dyddiad y cafodd y pysgod eu dal.

Ond daeth i'r amlwg fod y lluniau wedi eu postio cyn i Mr Bartkevics erioed ddal trwydded ddilys i ddal eogiaid.

Fe wnaeth y lluniau hefyd ddatgelu iddo drin eogiaid mewn amgylchiadau amheus.

Wedi'r erlyniad gan Gyfoeth Naturiol Cymru, fe gafwyd Mr Bartkevics yn euog o drosedd o dan y Ddeddf Eogiaid 1986 a Deddf Eogiaid a Dŵr Croyw 1975 ar 6 Mawrth 2024.

Dywedodd Arweinydd Tîm Gwastraff a Gorfodaeth CNC yng Nghanolbarth Cymru Jeremy Goddard: "Mae'r eog yn rhywogaeth eiconig yng Nghymru. Mae eu presenoldeb mewn afon yn arwydd o ansawdd amgylcheddol uchel, a phan fo stociau yn gynaliadwy, maent yn cefnogi pysgodfeydd gwerthfawr i lawer o ardaloedd gwledig yng Nghymru.

"Gan fod eogiaid dan bwysau sylweddol o lawer o ffynonellau, mae eu niferoedd yn agored iawn i ddifrod trwy bysgota anghyfreithlon. Ers 2020, mae is-ddeddfau pysgota â gwialen a rhwyd yng Nghymru wedi golygu bod yn rhaid dychwelyd yr holl eogiaid sy'n cael eu dal yng Nghymru i'r dŵr yn fyw cyn gynted â phosib."

Derbyniodd Mr Bartkevics orchymyn i dalu dirwyon gwerth £300, £650 tuag at gostau erlyn Cyfoeth Naturiol Cymru, a £34 o ordal dioddefwyr.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.