Bocsio: Anthony Joshua'n llorio Francis Ngannou yn yr ail rownd yn Riyadh
09/03/2024
Fe wnaeth y bocsiwr pwysau trwm o Brydain Anthony Joshua lorio Francis Ngannou yn yr ail rownd yn eu gornest yn Riyadh, Saudi Arabia yn oriau man fore Sadwrn.
Llwyddodd Joshua i reoli'r ornes o'r cychwyn, a wedi dau funud o'r rownd gyntaf fe lwyddodd i lanio dwrn dde gan arwain at Ngannou yn disgyn i'r llawr.
Fe wnaeth Ngannou godi ar ei draed ar gyfer eiliadau olaf y rownd honno, gan chwilio am achubiaeth a seibiant wrth i'r gloch ganu.
Ond byr iawn oedd ei ryddhad, ac yn yr ail rownd aeth Joshua ati i selio'i fuddugoliaeth.
Gyda 50 eiliad yn weddill yn yr ail rownd, unwaith eto fe darodd Joshua Ngannou gyda choblyn o ddwrn dde, gan ei dilyn gyda dwrn o'r chwith.
Fe ddisgynodd Ngannou i'r llawr am yr eildro, cyn codi'n simsan ar ei draed.
Dechreuodd y dyfarnwr gyfrif, cyn i Ngannou lusgo ei hun i gyfeiriad Joshua.
Doedd dim dianc i Ngannou - gyda Joshua'n taro dwrn olaf y noson gan achosi Ngannou i ddisgyn yn anymwybodol ar y llawr.
Cafodd gymorth meddygol cyn codi ar ei draed i longyfarch ei wrthwynebydd buddugol.
Er mai byr oedd yr ornest ar y noson, fe fydd yn dod â rhywfaint o sefydlogrwydd yn ôl i'r gamp, gyda Joshua'n llwyddo i guro dyn oedd o'r blaen wedi dod i amlygrwydd drwy ymladd MMA yn hytrach na bocsio.
Inline Tweet: https://twitter.com/anthonyjoshua/status/1766377604515324207