Newyddion S4C

‘Rhwystredig a thorcalonnus’: Menywod yn disgwyl 10 mlynedd am ddiagnosis endometriosis

09/03/2024
bethan jenkins.png

Yn ôl un sy'n dioddef o'r cyflwr endometriosis, mae’n "rhwystredig a thorcalonnus" bod menywod yng Nghymru yn disgwyl bron i 10 mlynedd am ddiagnosis. 

Dyma ymateb Bethan Jenkins, 38 oed, i ymchwil newydd gan yr elusen Endometriosis UK, sy’n awgrymu bod amseroedd aros am ddiagnosis wedi gwaethygu’n sylweddol yn y tair blynedd ddiwethaf, gan gynyddu i naw mlynedd ac 11 mis ar gyfartaledd yng Nghymru - cynnydd o 11 mis ers 2020.

Mae Ms Jenkins, sy’n rhedeg y cyfrif Instagram ‘Endo a ni’, wedi bod yn dioddef symptomau ers iddi fod yn ei harddegau cynnar.

Ond ni chafodd ddiagnosis a thriniaeth tan iddi ymweld â chlinig arbenigol yn Lloegr 15 mlynedd yn ddiweddarach.

Mae hi a'i theulu bellach wedi gwario dros £15,000 ar driniaeth i leddfu'r boen.

“Mae’n rhwystredig a thorcalonnus bod merched yng Nghymru yn disgwyl mor hir i gael atebion i symptomau sy’n effeithio arnyn nhw’n ddyddiol,” meddai.

“Sai’n credu bod digon o feddygon yn cael eu hyfforddi i wybod sut i ddelio â’r symptomau, dydyn nhw ddim yn gwybod beth i edrych amdano o reidrwydd." 

'Annerbyniol'

Yn ôl yr adroddiad, sy’n seiliedig ar arolwg o 4,371 o bobl sydd wedi cael diagnosis, roedd 47% o’r ymatebwyr wedi ymweld â’u meddyg teulu 10 gwaith neu fwy gyda symptomau cyn cael diagnosis. Roedd 70% wedi ymweld â’u meddyg bum gwaith neu fwy.

Roedd cynnydd mewn amseroedd aros am ddiagnosis ym mhedair gwlad y DU, ond cleifion yng Nghymru oedd yn wynebu’r amseroedd aros hiraf.

O'i gymharu ag amser aros o naw mlynedd ac 11 mis yng Nghymru, roedd cleifion yn Lloegr a’r Alban yn disgwyl am ddiagnosis am wyth mlynedd a 10 mis, tra roedd cleifion yng Ngogledd Iwerddon yn disgwyl am naw mlynedd a phum mis.

Dywedodd Emma Cox, Prif Swyddog Gweithredol Endometriosis UK: “Mae cymryd bron i ddeg mlynedd i gael diagnosis o endometriosis yn annerbyniol. 

“Mae’n rhaid i’n canfyddiad ei bod yn cymryd hyd yn oed mwy o amser i gael diagnosis o endometriosis fod yn alwad i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i roi’r gorau i leihau neu anwybyddu’r effaith sylweddol y gall endometriosis ei chael ar iechyd corfforol a meddyliol.”

'Diffyg ymwybyddiaeth'

Yn ôl Endometriosis Cymru, mae endometriosis yn gyflwr lle mae meinwe, sy’n debyg i’r meinwe sydd i’w chael y tu mewn i’r groth, yn cael ei chanfod mewn rhannau eraill o’r corff, er enghraifft yr ofarïau a thiwbiau ffalopaidd.

I rai menywod, mae hyn yn gallu achosi symptomau difrifol gan gynnwys mislif poenus a phoen pelfig, a gallai hefyd effeithio ar ffrwythlondeb.

Mae endometriosis yn effeithio ar un o bob 10 menyw yn fyd-eang, ac mae’n cael ei ddisgrifio gan y GIG fel un o’r 20 cyflwr mwyaf poenus.

Er hyn, mae Ms Jenkins yn teimlo nad yw meddygon yn ymwybodol o’r cyflwr a’i symptomau.

“Fi’n credu gwraidd y broblem yw bod merched yn mynd at feddygon o oedran ifanc a bod nhw’n dweud mai dim ond poen misglwyf ydyw.

“Maen nhw’n rhoi merched ar y pill o oedran ifanc a fi’n credu bod lot o bobl sy’n mynd i weld meddygon yn meddwl dyna be' sy’n mynd i wneud nhw’n well.

“Ond y gwir ydy, yn fy achos i, fe wnaeth hynny masgio’r symptomau am ‘chydig bach, ac unwaith wnes i benderfynu bo' fi eisiau dod off y pill oherwydd y sgil effeithiau, daeth yr holl symptomau endometriosis yn ôl.

“Fi’n credu bod yn rhaid i’r meddygon o’r dechre gymryd symptomau menywod o ddifrif, a hefyd gwrando a cheisio mynd at wraidd y broblem."

Mynd yn breifat

Ynghyd â gwella ymwybyddiaeth meddygon o'r cyflwr, dywedodd Ms Jenkins bod angen mwy o arbenigwyr endometriosis yng Nghymru.

Yn ôl Endometriosis UK, dim ond dwy ganolfan arbenigol sydd yng Nghymru, gydag un yn Ysbyty Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd, a’r llall yn Ysbyty Singleton yn Abertawe.

Mae’r elusen yn nodi bod yn rhaid i’r rhai sy’n byw yng ngogledd Cymru a rhannau eraill o’r wlad ble nad oes canolfan arbenigol deithio i Loegr i gael gofal.

Ond mae nifer o fenywod yn teimlo nad oes ganddyn nhw ddewis ond i dalu am ofal preifat - fe aeth Ms Jenkins i glinig preifat yn Birmingham ar ôl i'w symptomau waethygu.

“Fi’n byw yn y Cymoedd, ac mae’r profiad dwi wedi’i gael efo meddygon y GIG wedi bod yn erchyll. Dydyn nhw ddim yn fodlon cymryd fy symptomau o ddifrif. 

“Mae pobl wedi dweud wrtha i bod gen i pain threshold isel, bod periods i fod i frifo. 

“Dyna pam mae wedi cymryd 15 mlynedd a dwy lawdriniaeth breifat i mi gael diagnosis.”

Mae hi a’i rhieni wedi gwario £15,000 ar ddwy lawdriniaeth mewn ymgais i leddfu’r boen, ond nid oes iachâd ar gyfer y cyflwr ar hyn o bryd.

Mae gobaith ar y gweill wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi sawl mesur i fynd i'r afael ag iechyd menywod yng Nghymru.

Mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi ddydd Iau eu bod nhw’n creu rôl newydd arweinydd clinigol ar gyfer iechyd menywod yng Nghymru, yn ogystal â darparu cyllid gwerth £750,000 i gomisiynu ymchwil, o fis Ebrill 2025 ymlaen, a fydd yn canolbwyntio'n gyfan gwbl ar iechyd menywod.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod gan fyrddau iechyd y wlad "gyfrifoldeb" i ddarparu gwasanaethau gynaecoleg o "ansawdd uchel". 

"Mae'n hanfodol eu bod yn darparu llwybr cadarn ac effeithiol, sy'n cynnwys diagnosis cynnar, i reoli endometriosis yn unol â chanllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE).

"Rydym wedi ariannu nyrsys endometriosis penodedig ym mhob bwrdd iechyd yn GIG Cymru. Mae’r nyrsys hyn yn treulio amser gyda chleifion mewn clinigau ac yn trafod â'u timau amlddisgyblaethol er mwyn gwella'r gwasanaeth endometriosis yn eu bwrdd iechyd. 

"Mae adborth gan gleifion yn awgrymu eu bod yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth a chlust i wrando, a bod gwell dealltwriaeth o’u cyflwr.

"Ond rydym yn gwybod bod lle i wella, ac rydym yn gweithio gyda'r nyrsys endometriosis i nodi meysydd i'w gwella. Bydd hyn yn cael ei rannu gyda'r Rhwydwaith Iechyd Menywod wrth iddynt ddatblygu cynllun 10 mlynedd ar gyfer Iechyd Menywod yng Nghymru.”

Llun: Bethan Jenkins

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.