Bachgen 11 oed oedd yn gyrru car a charafán wedi ei arestio gan yr heddlu
Mae'r heddlu wedi dweud eu bod wedi cael eu synnu wrth stopio car oedd yn tynnu carafán a darganfod mai bachgen 11 oed oedd wedi bod yn ei yrru.
Roedd Heddlu Gogledd Swydd Efrog wedi stopio BMW X5 ar draffordd yr M1 oherwydd fod y gyrrwr wedi ei amau o ddwyn carafán.
Am tua 15.30 ddydd Iau, derbyniodd yr heddlu alwad yn dweud bod carafán wedi'i dwyn o faes gwyliau carafanau ger Thirsk, gogledd Swydd Efrog a'i bod yn cael ei thynnu gan BMW du.
45 munud yn ddiweddarach fe wnaeth y llu stopio’r cerbyd ar yr M1.
Ond dywedodd yr heddlu "nad oedd dim wedi gallu ein paratoi ar gyfer dod o hyd i fachgen ysgol yn eistedd yn sedd y gyrrwr".
Cafodd y bachgen ei arestio ar amheuaeth o nifer o droseddau gan gynnwys lladrata, byrgleriaeth, mynd â chyfarpar ar gyfer lladrad, a throseddau moduro gan gynnwys gyrru'n beryglus.
Cafodd ei holi ac mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth amodol wrth i ymholiadau pellach gael eu cynnal.
Cafodd neb ei anafu yn ystod y digwyddiad, meddai'r heddlu.