Newyddion S4C

Dyn camera o Gaerdydd sydd 'wedi gwario £10,000' ar 69 o datŵs o gwningod yn gosod record byd

08/03/2024
Tatws cwningod

Mae dyn camera o Gaerdydd wedi torri record byd fel y dyn sydd â'r nifer fwyad o datŵs cwningod ar ei gorff.

Yn wreiddiol o Lantrisant, mae gan Craig Evans, sy'n 42 oed 69 o datŵs cwningod ar hyd ei gorff.

Mae hefyd wedi llwyddo i ddennu sylw'r cyfryngau yn America am ei gamp, gan ymddangos ar raglen Jimmy Fallon dros y dyddiau diwethaf.

Image
Tatw

Wrth. siarad ar raglen Trystan ac Emma ar BBC Radio Cymru fore Gwener, dywedodd Craig ei fod wedi dechrau cael tatŵs o gwningod, gan ei fod wrth ei fodd â'r anifeiliaid ers yn blentyn.

"Nes i gychwyn achos ro'n i'n obsessed gyda Buggs Bunny, ac oni wrth fy modd gyda Thumper pan o'n i'n tyfu fyny a Roger Rabbit," meddai.

Image
Craig

"O'n i'n dechrau casglu celf gyda llwyth o cwningod arnyn nhw, so nes i benderfynu cael tatŵ gyda cynllun gan boi o'r enw Joe Leadbetter, so roedd hwnna'n gwych. 

"Wedyn nes i fynd i Efrog Newydd ac o'n i'n cael tatŵ am yr ail dro, ac oedd y tatŵ artist fel 'Beth wyt ti eisiau? Beth ti mewn i? 

"Ac o ni fel... dwi'n hoffi cwningod, so oedd o fel 'ok reit, nawn ni wneud 'na' felly roedd gen i ddau, ac fel mai'n digwydd mae cwningod yn multiplio, a nawr mae gen i 69."

Image
Craig

Fe gafodd ei datŵ cyntaf yn 2009 ac mae Craig yn amcangyfrif ei fod wedi gwario tua £10,000 ar gael yr holl datŵs, ac wedi treulio tua 125 awr yng nghadair artists tatŵs gwahanol.

"Mae pobl yn talu miliynau o bunnoedd am gael celf ar eu waliau nhw, so mae'n eitha rhad i feddwl am hwnna," meddai.

"Fi'n ffilmio lot o rhaglenni plant, ac mae'r plant wrth eu bodda yn edrych ar y tatŵs, ac yn mynd 'wooo ma'r bunnys na mor cool'  so ma' meddyliau nhw yn gweld o fel celf, ond tria dweud hynna i mam a dad, mae mam a dad yn casau nhw."

Image
Tatw

Mae wedi cael tatŵs gan artistiaid amrywiol o bob rhan o’r DU a thu hwnt, gan gynnwys gwledydd fel Japan, De Corea, Sbaen, Ffrainc, ac UDA.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.