Newyddion S4C

'Mentor gwych': Cesc Fàbregas wedi 'dysgu gymaint' gan Osian Roberts

Sgorio 08/03/2024

'Mentor gwych': Cesc Fàbregas wedi 'dysgu gymaint' gan Osian Roberts

Tri mis ers iddo gael ei benodi'n rheolwr Como 1907 yn yr Eidal, mae Osian Roberts wedi cael ei ganmol i'r cymylau gan ei reolwr cynorthwyol, Cesc Fàbregas.

Mewn cyfweliad â Sgorio, dywedodd Fàbregas, sydd wedi ennill Cwpan y Byd a chwpanau yn Lloegr, Sbaen a Ffrainc ei fod wedi dysgu gymaint gan Roberts yn barod.

“Mae Osian yn wych, dwi’n dysgu cymaint ganddo,” meddai.

“Mae’n brofiad grêt, ac mae’n berson grêt i gael o gwmpas, mae e fel mentor, mae e wedi hyfforddi ac addysgu nifer o chwaraewyr a hyfforddwyr da dyddiau yma.

“Mae’n bersonoliaeth gwych i gael o gwmpas a dwi’n dysgu llawer ganddo."

Image
Osian Roberts a Cesc Fàbregas
Osian Roberts a Cesc Fàbregas yn gwylio Como 1907 yn ymarfer. Llun: Sgorio

Mae Osian Roberts wedi gweithio gyda nifer o oreuon y byd pêl-droed gan gynnwys Theirry Henry, Mikel Arteta a Patrick Vieira.

Dywedodd Fàbregas ei fod wedi siarad gyda nhw am Roberts, ac roedden nhw hefyd yn ei ganmol.

“Roedden nhw i gyd wedi rhoi adborth gwych amdano," meddai.

“Ar ryw bwynt roedd pob un ohonyn nhw eisiau [Roberts] fel eu rheolwr cynorthwyol, felly mae hynny’n adrodd cyfrolau."

Cyd-weithio

Cafodd Roberts ei benodi'n rheolwr Como 1907, sydd yn chwarae yn yr ail haen yn Yr Eidal ym mis Rhagfyr y llynedd.

Maen nhw'n drydedd yn y gynghrair gyda 10 gêm yn weddill.

Y nod yw ceisio cyrraedd Serie A, ac mae'r dyn o Fôn yn falch o gael Fàbregas wrth ei ochr o geisio cyflawni hynny, gan fod ganddo gymaint o wybodaeth am y clwb a'r gynghrair.

“Oeddan ni’n gwybod wrth gwrs o ffrindiau oedd gynnon ni’n dau y bysa ni’n gallu gweithio’n dda efo’n gilydd," meddai.

“Mae’n nabod y gynghrair, mae’n nabod y timau eraill, mae’n nabod y stadiwm, pwy ‘da ni’n mynd i chwarae nesa’ a mae ‘di chwarae ar y cae synthetig.

“Mae ei help o a’i brofiad o o ran hynny, yn hollbwysig. Ac wedyn mae o’n nabod y stafall newid, mae’n nabod y personoliaethau yna ac wrth gwrs, mae’n siarad Eidaleg.

“Mae o’n bersonoliaeth ac yn berson pwysig yn y clwb.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.