Wrecsam: Cyhuddo dyn o geisio cymryd aderyn gwyllt gan ddefnyddio trap
07/03/2024
Mae dyn o Wrecsam wedi’i gyhuddo o geisio cipio gwalch marth mewn trap cawell.
Cafodd y dyn 47 oed o ardal Wrecsam ei gyhuddo o ddefnyddio trap i ladd neu gymryd aderyn gwyllt ac o fod ag eitem yn ei feddiant y gellid ei ddefnyddio i ladd neu gymryd aderyn gwyllt.
Mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys Ynadon Wrecsam ddydd Iau, 28 Mawrth.
Mae cymryd aderyn sydd wedi ei gofrestru fel aderyn 'atodlen 1', fel y gwalch marth yn drosedd o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.
Dywedodd Heddlu Gogledd y byddai tîm troseddau gwledig Heddlu Gogledd Cymru yn mynd ar ôl unrhyw un sy'n targedu bywyd gwyllt.
Llun: RSPB