Newyddion S4C

Ail-gartrefi: Polisi treth Cymru yn ‘niweidio llety gwyliau go-iawn’, meddai arbenigwr

ITV Cymru 07/03/2024
Jonah a Sue ail gartrefi

Mae cwpl sy’n rhedeg llety gwyliau yn Sir Gaerfyrddin yn rhybuddio bod polisi ail gartrefi Llywodraeth Cymru wedi creu “storm berffaith” sy’n effeithio ar fusnesau bach. 

Penderfynodd Sue a Jonah MacGill drosi bwthyn cerrig o’r 1700au yn Llanymddyfri i fod yn llety gwyliau hunanarlwyo yn 2003.

Roedden nhw’n gobeithio y byddai'n rhoi incwm iddyn nhw ar ôl ymddeol o'r fyddin a'r Gwasanaeth Iechyd.

Ond dywedodd Mr MacGill fod y polisïau tai a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2023 yr “un maint ar gyfer pawb” gyda biliau'n cynyddu.

Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio mynd i'r afael â'r argyfwng tai mewn ardaloedd sydd â chyfraddau uchel o ail gartrefi.

'Straen'

Mae rhaid i fusnesau llety gwyliau gael eu gosod am 182 diwrnod y flwyddyn, neu chwe mis, i fod yn gymwys ar gyfer treth busnes.

Os nad ydyn nhw, gallen nhw gael eu dosbarthu fel ail gartref, sy'n golygu y gallai'r perchnogion dalu premiwm treth cyngor - hyd at 300% mewn rhai rhannau o Gymru.

Er bod Mr a Mrs MacGill yn cyrraedd y targed o 182 diwrnod, maen nhw'n dweud bod y polisi hwn yn ychwanegu "straen enfawr".

Dywedodd Mr MacGill: "Mae gorfod cau yn bryder. Os ydym yn sylweddoli ein bod yn mynd i fethu'r targed o 182, byddai'n rhaid i niganfod yr arian o rywle i wneud arbedion.

"Rydyn ni'n teimlo ein bod ni'n cael ein targedu, bron yn cael ein gwahaniaethu yn ein herbyn. Mae’n ddatrysiad un maint ar gyfer pawb. Mae'n strategaeth flanced er mwyn datrys y problemau tai sydd gennym ni."

'Niweidio busnesau'

Mae Alistair Handyside, Cadeirydd Sefydliad Proffesiynol yr Hunanarlwywyr, yn treulio’i amser yn cefnogi perchnogion busnesau llety gwyliau gyda'u hiechyd meddwl.

"Mae'n straen enfawr. Fyddech chi ddim yn dweud wrth dafarn bod angen iddyn nhw werthu nifer penodol o beintiau nac i westai archebu nifer penodol o ystafelloedd," meddai Mr Handyside.

Parhaodd: “Mae’n fesur artiffisial na all y rhan fwyaf o fusnesau hunanarlwyo Cymru ei fodloni.

"Rydym yn deall bod gan Lywodraeth Cymru amcanion ond peidiwch â niweidio busnesau Cymreig go-iawn. Y mesur arbennig hwn yw'r mwyaf niweidiol ohonyn nhw i gyd."

Ychwanegodd Mr Handyside mai un ateb syml fyddai gostwng y targed 182 diwrnod i rywbeth mwy rhesymol. Argymhellwyd 105 diwrnod gan Adran Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi. 

'Ymgysylltu'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae gan Gymru gymaint i’w gynnig i ymwelwyr ac rydym am sicrhau ein bod yn gwireddu’r potensial hwnnw mewn ffordd sy’n sicrhau cydbwysedd cynaliadwy rhwng ein cymunedau, busnesau, tirwedd ac ymwelwyr.

“Rydym yn cymryd camau radical gan ddefnyddio’r systemau cynllunio, eiddo a threthiant sydd ar gael i ni i gyflawni hyn, fel rhan o becyn cyd-gysylltiedig o atebion i set gymhleth o faterion.

“Byddwn yn parhau i ymgysylltu â’r diwydiant i’n helpu ni weithredu.”

Yng nghyhoeddiad cyllideb Llywodraeth y DU ar 6 Mawrth, dywedodd y Canghellor Jeremy Hunt y bydd yn dilyn model Cymru o ddileu gostyngiadau treth i berchnogion ail gartrefi.

Mae'r gostyngiadau treth hyn wedi bod yn ei gwneud yn fwy proffidiol i berchnogion ail gartrefi osod eu heiddo i bobl ar eu gwyliau yn hytrach na thenantiaid hirdymor.

Dywedodd Mr Hunt y bydd y polisi hwn, sydd eisoes wedi'i fabwysiadu yng Nghymru, yn lleddfu'r argyfwng tai mewn rhannau o'r DU lle mae pobl leol wedi cael eu prisio allan o'u hardaloedd lleol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.