Camdriniaeth yn ‘arwain at gynydd mewn achosion o salwch meddwl’ i fenywod
Mae meddygon wedi rhybuddio fod trais a chamdriniaeth yn erbyn menywod yn arwain at nifer cynyddol o achosion o salwch meddwl.
Dywedodd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion bod nifer uchel o gleifion yn cysylltu am help gydag iechyd meddwl ar ôl dioddef camdriniaeth.
Gall camdriniaeth tymor hir arwain at ystyried hunanladdiad neu seicosis, medden nhw mewn ymchwil newydd a gyhoeddwyd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched.
Dywedodd bron i hanner (49%) o’r seiciatryddion a holwyd bod problemau mewn perthynas gyda phartner neu aelod o'r teulu - ymddygiad gorfodaethol (coercive behaviour) yn bennaf - yn arwain at broblemau iechyd meddwl.
Dywedodd Dr Catherine Durkin, cyd-arweinydd achosion menywod ac iechyd meddwl yng Ngholeg Brenhinol y Seiciatryddion bod camdriniaeth yn gwneud “niwed difrifol” i iechyd meddwl menywod a merched.
“Nid yw’n anghyffredin i gleifion benywaidd brofi cam-drin hirdymor sy’n achosi symptomau difrifol, gan gynnwys ystyried hunanladdiad neu symptomau o seicosis," meddai.
“Rwy’n gweld cleifion yn rheolaidd sy’n ddibynnol ar bartner neu aelod o’r teulu sy’n eu cam-drin oherwydd rhesymau emosiynol, teuluol neu ariannol.
“Mae dioddefwyr yn aml yn teimlo na allant siarad yn agored am faterion o’r fath, sy’n golygu bod eu problemau’n mynd dan y wyneb, weithiau am flynyddoedd.
“Nid yw pob cam-drin yn gorfforol – mae cam-drin seicolegol hefyd yn achosi niwed eithafol ac yn taflu cysgod hir.”