
Cyhoeddi cynllun i adeiladu morglawdd rhwng Lerpwl a Chilgwri
Mae awdurdodau Lerpwl wedi cyhoeddi cynllun gwerth biliynau o bunnoedd i adeiladu morglawdd sy'n cynhyrchu ynni adnewyddadwy rhwng y ddinas a Chilgwri ar Afon Mersi.
Cafodd y morglawdd, a allai gynnwys llwybrau beicio a cherdded, ei gadarnhau ddydd Iau fel yr opsiwn gorau ar gyfer prosiect 'Mersey Tidal Power'.
Mewn cyfarfod yn ddiweddarach y mis hwn, fe fydd cais i aelodau Awdurdod Dinas-Ranbarth Lerpwl gymeradwyo cais cwmpasu – yn nodi’r cynigion ar gyfer yr hyn a fyddai’n gynllun llanw mwyaf y byd – a'i gyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio.
Byddai'r cynllun, y mae'r awdurdod yn dweud y gallai fod yn weithredol o fewn degawd, angen cefnogaeth y Llywodraeth i fynd yn ei flaen.
Mae cynlluniau ar gyfer morglawdd ar draws y Mersi wedi eu hawgrymu o'r blaen ond nid ydynt erioed wedi dwyn ffrwyth.

Cynhaliwyd astudiaethau yn y 1990au cynnar i weld os oedd cynllun o'r fath yn werth am arian, ac fe roddwyd y gorau i brosiect arall yn 2011.
Mae pryderon wedi’u codi am effaith amgylcheddol datblygiad o'r fath, gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Gaer yn rhybuddio fod gan y cynllun “y potensial i achosi difrod amgylcheddol sylweddol” i gynefin degau o filoedd o adar sy’n byw yn yr ardal.
Os bydd aelodau yn y cyfarfod ar 15 Mawrth yn cytuno i gyflwyno'r cais, byddai cyfnod o ymgynghori yn cael ei gynnal gyda rhanddeiliaid, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, meddai llefarydd ar ran yr awdurdod Lerpwl.
Dywedodd yr adroddiad fod y morglawdd yn opsiwn llai costus na morlyn ac y byddai'n cynnig manteision eraill, gan gynnwys y potensial i helpu i reoli materion sy'n ymwneud â newid hinsawdd, megis effeithiau cynnydd yn lefel y môr.