Newyddion S4C

'Pobl gyffredin yn dioddef' wrth i'r Canghellor gyhoeddi ei Gyllideb

07/03/2024

'Pobl gyffredin yn dioddef' wrth i'r Canghellor gyhoeddi ei Gyllideb

Profion MOT oedd yn cadw criw y garej yma'n brysur pnawn 'ma nid gwylio'r Canghellor.

Yn San Steffan oedd y sŵn ond mewn ardaloedd fel Bethesda fydd y gyllideb yn cael ei rhoi ar brawf go iawn.

"Mae popeth 'di codi. Dŵr, trydan, nwy. Dw i'n talu tua £4,000 y flwyddyn yn fwy. Dw i'n dallt bod nhw'n dod a'r tax i lawr.

"Dwy geiniog mewn punt. 'Dwn i'm os wneith o wahaniaeth i fi."

"Mae'n anodd byw y dyddiau yma."

Be ydy'ch barn chi am y gyllideb a gwleidyddion Llundain?

"Fydda i'm yn dal fy ngwynt."

"Dw i'm yn talu National Insurance. Mae smôcs yn ddrud."

Maen nhw wedi codi'r treth ar vapes.

"Codi treth ar vapes. Dw i'n dallt pam. Mae lot o bobl yn addicted i'r pethau 'ma. Mae'n anodd stopio. Mae'r rhan fwyaf yn bobl working class sy methu fforddio."

"Chawn ni'm llawer o'm byd allan o'r budget. Pobl ordinary sy'n syffro. Yn fy meddwl i."

Gyda sawl chwiban yn rhybuddio fod Etholiad Cyffredinol ar y ffordd, costau byw sydd ar feddyliau'r rhieni yma a nhwythau'n deud dylai gwleidyddion gadw eu llygad ar y bêl.

"Heb bod nhw'n dod yma eu hunain a gweld sut 'dan ni'n byw sgynnon nhw'm syniad. "Mae'r negas wythdeg yn fwy na be oedd o yr wythnos. Yn braf. Mae hanfodion dach chi isio."

"Biliau bwyd wedi mynd i fyny. Y pethau iach sy'n costio fwya. Dw i'n lwcus bod fi'n byw yn agos i'r ysgol. 'Dan ni'n cerdded i'r ysgol. Mae bob dim bach yn helpu."

Pan mae gwleidyddion yn trafod eu cyllideb be dach chi'n feddwl maen nhw'n meddwl am y teuluoedd o gwbl?

"'Dyn nhw ddim yn meddwl am gymunedau bach. Mae'n bwysig iddyn nhw ddod i'r gymuned yn lle dinasoedd mawr. Mae'n well iddyn nhw ddod i weld eu hunain mewn realiti."

Roedd y gyllideb yma yn un bwysig i Lywodraeth y Canghellor ond ar y cyfan, taflu dŵr oer arni oeddan nhw ym Methesda.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.