Newyddion S4C

Wythnos mabwysiadu a maethu LHDTC+: ‘Mae fy mhartner yn ‘neud fi’n rhiant gwell’

09/03/2024

Wythnos mabwysiadu a maethu LHDTC+: ‘Mae fy mhartner yn ‘neud fi’n rhiant gwell’

Wrth nodi wythnos mabwysiadu a maethu’r gymuned LHDTC+, mae gofalwr maeth o Sir Gaerfyrddin wedi dweud bod cariad a chefnogaeth ei phartner wedi ei gwneud yn “riant gwell.”

Mae Joanna Johnston o Cross Hands yng Ngwm Gwendraeth, a’i phartner Emma, sy’n wreiddiol o Malvern yn Sir Gaerwrangon, wedi bod yn ofalwyr maeth am ychydig dros flwyddyn. 

A phan wnaeth y pâr gwrdd â’u gilydd chwe mlynedd yn ôl, penderfynodd y ddwy ohonyn nhw eu bod am rannu eu cariad gyda phlant a phobl ifanc oedd mewn angen. 

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Joanna Johnston: “Ers cwrdd ag Emma, mae Emma a shwd gymaint o gariad i roi a byth wedi cael plant ei hunan. 

“Ond mae cael cefnogaeth Emma wrth fy ochr wedi ‘neud fi’n rhiant gwell,” meddai.

Wedi i’w phlant biolegol adael gartref, roedd Joanna yn awyddus i lenwi’r “gwagle” oedd ar ôl, meddai. 

“Chi’n mor gyfarwydd a cael teulu rownd a caru nhw, fi’n credu pan ‘nathon nhw gadael o’n i’n gweld e’n od iawn,” esboniodd. 

“Penderfynodd y ddwy ohonom ni fod eisiau cael rhywun ifanc yn ôl yn y teulu a helpu pobl sydd angen cariad a cymorth gyda problemau bywyd.” 

Image
Joanna ac Emma
Joanna Johnston (dde) a'i phartner, Emma (chwith)

‘Pethau positif’

Mae’r pâr wedi maethu merch ifanc yn llawn amser ers mis Ionawr y llynedd, ac maen nhw bellach yn maethu plant a phobl ifanc eraill yn rhan amser yn ystod yr wythnos hefyd. 

Fel aelod o’r gymuned LHDTC+, dywedodd Joanna Johnston bod eu cymuned leol yn Sir Gaerfyrddin wedi bod yn “gefnogol iawn” o’u penderfyniad i faethu.

“Ni wedi cael lot o bethau positif a mae’r gymuned maethu a’r gymuned lleol wedi bod yn agored iawn i ni. 

“Nid yn unig yn maethu ond hefyd i berthynas fi ac Emma, felly o safbwynt i, pethau positif, positif iawn. 

“Ni ‘di cael ein derbyn fan hyn a falle bod e ddim fel ‘na dros y lle i gyd. Ond yn bendant allai sôn amdano’r ardal hyn.

“Mae ‘di bod yn bleser rhannu ein stori ni gyda phobl; ni byth wedi cael unrhyw beth negyddol,” meddai. 

‘Gwahanol fathau o faethu’

Yn ôl ffigyrau diweddaraf Llywodraeth Cymru, mae nifer y gofalwyr maeth o’r un rhyw wedi cynyddu 23% yn ystod y flwyddyn diwethaf. 

Ac mae chwarter o’r aelwydydd sy’n mabwysiadau yng Nghymru bellach yn gyplau o’r un rhyw hefyd – o gymharu â dim ond un ym mhob 10 yn 2012.

Mae Joanna ac Emma Johnston yn annog unrhyw un sy’n ystyried maethu i gymryd “y cam nesaf” a holi’r cwestiynau priodol. 

Maen nhw hefyd yn awyddus i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â’r gwahanol fathau o faethu, ac eisiau rhoi sicrwydd i bobl fod ‘na gymorth ar gael i’w helpu gyda’r broses. 

“Mae lot o wahanol fathau o faethu, yn amlwg mae ‘na rai hir dymor le chi’n gallu cael plentyn nes ei fod yn barod i fynd i fyw ar ben ei hunan. 

“Mae maethu dros dro i gael, ma’ maethu argyfwng, ma’ maethu yn yr ysbyty i mamau a babis bach sydd angen cymorth. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.