Newyddion S4C

Un o ymgynghorwyr Mark Drakeford wedi dileu negeseuon yn fwriadol yn ystod y pandemig

07/03/2024
Jane Runeckles

Mae un o uwch ymgynghorwyr i Mark Drakeford wedi dweud ei bod wedi newid gosodiadau ar ei ffôn i ddileu negeseuon yn ystod y pandemig, a oedd yn groes i argymhellion Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Jane Runeckles, ymgynghorydd arbennig i Lywodraeth Cymru ei bod wedi defnyddio gosodiad i wneud negeseuon WhatsApp ddiflannu.

Ychwanegodd Ms Runeckles, sydd wedi gweithio i Lywodraeth Cymru am bron i 20 mlynedd ei bod wedi defnyddio'r dechnoleg "yn anghywir."

Defnyddiodd ei ffôn personol i anfon negeseuon am benderfyniadau'r llywodraeth, a oedd yn groes i argymhellion gan Lywodraeth Cymru ar y pryd, sef na ddylai ffonau personol gael eu defnyddio.

Wrth roi tystiolaeth yn Ymchwiliad Covid-19 y DU yng Nghaerdydd ddydd Iau dywedodd Ms Runeckles ei bod "yn gwybod nad oeddwn mewn sefyllfa i ddefnyddio fy ffôn personol ar gyfer penderfyniadau ffurfiol Llywodraeth Cymru”.

Dadleuodd bod y grwpiau negeseuon yn cael eu defnyddio ar gyfer "dibenion gweinyddol ac ar gyfer morâl y tîm" yn unig.

"Roedd adeg lle nad oedd fy nhîm yn y swyddfa, ac roedd hwn yn rhywbeth roeddem yn ei wneud er mwyn cadw mewn cysylltiad," meddai

Ond, gofynnodd Y Foneddiges Hallet, cadeirydd yr ymchwiliad, wrthi: “Onid yw defnyddio eich ffôn personol at ddibenion gweinyddol yn golygu eich bod yn ei ddefnyddio ar gyfer busnes Llywodraeth Cymru? Felly, roeddech chi'n ei ddefnyddio'n anghywir?”

"Oeddwn," atebodd Ms Runeckles.

'Byth yn cael atebion'

Mynegodd y Fonesig Shan Morgan, ysgrifennydd parhaol Llywodraeth Cymru tan fis Hydref 2021, syndod yn ei thystiolaeth i'r ymchwiliad bod Ms Runeckles wedi defnyddio'r gosodiad negeseuon yn diflannu, a osodwyd ganddi ym mis Tachwedd y flwyddyn honno.

Dywedodd Ms Runeckles nad oedd yn credu bod unrhyw dystiolaeth o wneud penderfyniadau yn y grwpiau pan ofynnwyd iddi pam ei bod yn defnyddio negeseuon a oedd yn diflannu.

“Mae hyn yn rhywbeth rydw i wedi myfyrio arno’n fawr, ac rwy’n meddwl y byddai’n ddefnyddiol iawn i bobl sydd â'r un fath o swydd sydd gennyf yn y dyfodol i gael rhai argymhellion clir am hyn.”

Clywodd gwrandawiad cynharach fod ymgynghorwyr arbennig yn atgoffa eu hunain ac eraill eu bod wedi cytuno “i ddileu negeseuon WhatsApp unwaith yr wythnos”.

Nid yw wedi dod yn eglur o dystiolaeth yr ymchwiliad pwy ddywedodd hyn ac ni chafodd Ms Runckles ei holi amdano.

Wrth ymateb i dystiolaeth Ms Runeckles yn yr ymchwiliad, dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, bod dileu negeseuon yn atal y cyhoedd rhag cael atebion.

“Trwy ddileu’n fwriadol negeseuon oedd yn berthnasol i benderfyniadau Llywodraeth Cymru, mae cynghorwyr a gweinidogion wedi atal teuluoedd mewn profedigaeth o’r atebion maen nhw’n eu haeddu.

“Mae pobl a gollodd aelodau o’u teulu a ffrindiau yn ystod y pandemig yn haeddu gwybod sut a pham y gwnaed penderfyniadau, ond diolch i gamau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru, efallai na fyddant byth yn cael yr atebion hynny.

“Os oes gan y llywodraeth Lafur unrhyw lefel o barch neu dosturi tuag at y bobol hynny, fe ddylen nhw wneud y peth iawn a sefydlu ymchwiliad penodol i Gymru er mwyn i ni allu mynd at wraidd y materion hynod bwysig hyn.”

Llun: Ymchwiliad Covid-19 y DU

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.