Newyddion S4C

Golwg ar gemau dydd Sadwrn y Cymru Premier JD

Sgorio 09/03/2024
Drenewydd v AberystwytH

Sicrhaodd Y Seintiau Newydd y bencampwriaeth brynhawn Sadwrn diwethaf gyda buddugoliaeth o 4-0 gartref yn erbyn Met Caerdydd gan godi’r tlws am y trydydd tymor yn olynol, ac am yr 16eg tro yn eu hanes. 

Drwy selio’r bencampwriaeth ar yr 2il o Fawrth mae’r Seintiau wedi ennill y gynghrair yn gynt nac erioed a chyn unrhyw glwb arall ar draws prif gynghreiriau Ewrop.

Mae 10 pwynt yn gwahanu Cei Connah a’r Bala yn y ras am yr ail safle a’r ail docyn i Ewrop, ond mae’n debygol y bydd gorffen yn y trydydd safle yn ddigon i gyrraedd Ewrop hefyd, fel sydd wedi digwydd yn y naw tymor diwethaf.

Mae Caernarfon a Met Caerdydd yn hafal ar bwyntiau yn y 4ydd a’r 5ed safle, wyth pwynt y tu ôl i’r Bala, felly mae dipyn o waith ganddyn nhw i’w wneud os am geisio cadw’r pwysau ar Y Bala.

Bydd y clwb sy’n gorffen ar frig y Chwech Isaf (7fed safle) yn cael cystadlu gyda gweddill clybiau’r Chwech Uchaf yn y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor am yr un tocyn olaf i Ewrop, tra bydd y ddau dîm isa’n y tabl yn syrthio i’r ail haen.

Y Chwech Uchaf 

Y Drenewydd (6ed) v Met Caerdydd (5ed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Mae’r Drenewydd a Met Caerdydd wedi llithro lawr y tabl ar ôl cyfnodau siomedig yn y gynghrair.

Mae’r Drenewydd wedi colli wyth gêm gynghrair yn olynol am y tro cyntaf erioed yn y Cymru Premier JD, tra bod Met Caerdydd wedi mynd ar rediad o wyth gêm gynghrair heb ennill am y tro cyntaf ers tair blynedd.

Bydd angen codi’r ysbryd a’r hyder cyn y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor, a chyn i Met Caerdydd wynebu’r Seintiau Newydd yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru JD.

Met Caerdydd sydd wedi cael y gorau o bethau yn y bum gêm ddiweddar rhwng y timauyma (ennill 3, cyfartal 1, colli 1), ond Y Drenewydd oedd yn fuddugol y tro diwethaf i’r timau gyfarfod ar Barc Latham ym mis Medi (Dre 2-1 Met).

Record cynghrair diweddar:

Y Drenewydd: ❌❌❌❌❌

Met Caerdydd: ͏❌❌➖➖➖

Y Chwech Isaf

Pontypridd (10fed) v Aberystwyth (11eg) | Dydd Sadwrn – 14:30

Er gwaetha’r naw pwynt o gosb mae Pontypridd yn benderfynol o osgoi’r cwymp elenigyda’r Dreigiau’n dringo allan o safleoedd y cwymp unwaith eto’r penwythnos diwethaf ar ôl buddugoliaeth gampus ym Mhen-y-bont.

Y Seintiau Newydd (12pt) yw’r unig glwb sydd â record well na Pontypridd (10pt) ers yr hollt, a’r Seintiau (14) hefyd yw’r unig rai i gadw mwy o lechi glân na Ponty (11) y tymor hwn.

Mae Aberystwyth yn un o’r ddau glwb sydd wedi bod yn holl-bresennol yn Uwch Gynghrair Cymru ers ffurfio’r gynghrair yn 1992 (gyda’r Drenewydd), ac ar ôl osgoi’r cwymp o drwch blewyn ar y penwythnos ola’r tymor diwethaf, mae’r Gwyrdd a’r Duon yn chwarae gyda tân eto eleni.

Gwahaniaeth goliau’n unig sy’n gwahanu Pontypridd ac Aberystwyth gyda’r clybiau’n eistedd ddau bwynt uwchben Bae Colwyn yn y frwydr i aros yn y gynghrair.

Bydd hi’n brynhawn cyffrous i reolwr newydd Pontypridd, Gavin Allen sy’n dychwelyd i wynebu ei gyn-glwb ble bu’n reolwr ar dîm y dynion, y tîm ieuenctid a thîm y merched.

Mae Pontypridd ar rediad o bum gêm heb golli yn erbyn Aberystwyth, ac mae’r Dreigiau wedi ennill eu tair gêm yn erbyn y Gwyrdd a’r Duon y tymor hwn heb ildio unwaith.

Record cynghrair diweddar:

Pontypridd: ✅✅➖✅✅

Aberystwyth: ͏➖➖❌✅❌

Y Barri (9fed) v Bae Colwyn (12fed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Dyw’r Barri heb ennill ers yr hollt yn y gynghrair, ond mae carfan Parc Jenner yn dal yn y ras am y 7fed safle gyda dim ond pum pwynt yn eu gwahanu nhw a Hwlffordd ar ddechrau’r penwythnos.

Ond gyda dim ond un fuddugoliaeth yn eu saith gêm gartref ddiwethaf yn y gynghrair(Barr 4-0 Dre), mae angen i fechgyn Jonathan Jones godi’r safon os am gystadlu am le’n y gemau ail gyfle.

Ar ôl esgyn i Uwch Gynghrair Cymru am y tro cyntaf yn eu hanes mae Bae Colwyn mewn perygl o lithro’n syth yn ôl i Gynghrair y Gogledd ar y cynnig cyntaf.

Does neb wedi colli mwy, ennill llai, nac ildio mwy o goliau na Bae Colwyn y tymor hwn, ond er hynny, dim ond dau bwynt sydd rhwng y Gwylanod a diogelwch y 10fed safle.

Mae’r record benben yn hafal wedi tair gêm rhwng y clybiau’r tymor hwn gyda’r ddau dîm yn ennill unwaith a chael un gêm gyfartal.

Record cynghrair diweddar:

Y Barri: ➖➖➖❌✅

Bae Colwyn: ➖❌✅❌❌

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos i’w weld ar S4C nos Lun.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.