Newyddion S4C

Cipolwg ar gemau nos Wener y Cymru Premier JD

Sgorio 08/03/2024
Cei Connah

Sicrhaodd Y Seintiau Newydd y bencampwriaeth brynhawn Sadwrn diwethaf gyda buddugoliaeth o 4-0 gartref yn erbyn Met Caerdydd gan godi’r tlws am y trydydd tymor yn olynol, ac am yr 16eg tro yn eu hanes. 

Drwy selio’r bencampwriaeth ar yr 2il o Fawrth mae’r Seintiau wedi ennill y gynghrair yn gynt nac erioed a chyn unrhyw glwb arall ar draws prif gynghreiriau Ewrop.

Mae 10 pwynt yn gwahanu Cei Connah a’r Bala yn y ras am yr ail safle a’r ail docyn i Ewrop, ond mae’n debygol y bydd gorffen yn y trydydd safle yn ddigon i gyrraedd Ewrop hefyd, fel sydd wedi digwydd yn y naw tymor diwethaf.

Mae Caernarfon a Met Caerdydd yn hafal ar bwyntiau yn y 4ydd a’r 5ed safle, wyth pwynt y tu ôl i’r Bala, felly mae dipyn o waith ganddyn nhw i’w wneud os am geisio cadw’r pwysau ar Y Bala.

Bydd y clwb sy’n gorffen ar frig y Chwech Isaf (7fed safle) yn cael cystadlu gyda gweddill clybiau’r Chwech Uchaf yn y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor am yr un tocyn olaf i Ewrop, tra bydd y ddau dîm isa’n y tabl yn syrthio i’r ail haen.

Y Chwech Uchaf

Cei Connah (2il) v Y Seintiau Newydd (1af) | Nos Wener – 19:45

Mae’r Seintiau Newydd wedi cwblhau’r dwbl, ac felly mae cewri Croesoswallt hanner ffordd tuag at eu targed o gyflawni’r ‘quadruple’ am y tro cyntaf yn eu hanes.

Brad Young oedd yr arwr yn erbyn Met Caerdydd y penwythnos diwethaf yn taro ei bedwerydd hatric yn y gynghrair gan ddod a’i gyfanswm i 29 o goliau ym mhob cystadleuaeth.

Mae tîm Craig Harrison eisoes wedi codi Cwpan Nathaniel MG ym mis Ionawr, wedi cyrraedd rownd gynderfynol Cwpan Cymru ac wedi cyrraedd rownd derfynol Cwpan Her yr Alban am y tro cyntaf erioed.

Enilodd Y Seintiau Newydd y trebl domestig ddwywaith yn olynol rhwng 2014-16 dan arweiniad Craig Harrison, ond ennill y ‘quadruple’ am y tro cyntaf yw’r gamp eleni, a cheisio mynd drwy’r tymor cyfan heb golli gêm ddomestig.

Mae’r Seintiau wedi ennill 31 o gemau yn olynol ym mhob cystadleuaeth (yn cynnwys buddugoliaeth ar giciau o’r smotyn yn erbyn East Fife), ac mae dros flwyddyn wedi mynd heibio ers i’r pencampwyr golli ddiwethaf yn y gynghrair (un colled mewn 64 gêm gynghrair – 3-2 vs Met).

Cei Connah yw’r unig glwb sydd wedi gallu cystadlu’n wirioneddol gyda’r Seintiau yn ystod y degawd diwethaf, gyda’r Nomadiaid yn ennill y gynghrair ddwywaith yn olynol yn 2019/20 a 2020/21.

Gorffennodd Y Seintiau Newydd 27 pwynt uwchben Cei Connah (2il) yn nhymor 2016/17 pan dorron nhw record y byd drwy ennill 27 gêm yn olynol (heb gynnwys ciciau o’r smotyn), a bydd Craig Harrison yn awyddus i guro record eu hunain eto eleni gyda 20 pwynt yn gwahanu’r clybiau a chwe gêm yn weddill.

Mae’r Seintiau Newydd eisoes wedi curo Cei Connah ddwywaith yn rhan gynta’r tymor gan sgorio 10 o goliau (YSN 6-2 Cei, Cei 0-4 YSN) a dyw hogiau Croesoswallt heb golli mewn saith gêm yn erbyn y Nomadiaid (ennill 5, cyfartal 2).

Record cynghrair diweddar:

Cei Connah: ❌✅✅➖✅

Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅

Y Bala (3ydd) v Caernarfon (4ydd) | Nos Wener – 19:45 (Yn fyw arlein)

Mae wyth pwynt yn gwahanu’r Bala a Chaernarfon ac felly bydd angen buddugoliaeth ar y Cofis nos Wener os am unrhyw obaith gwirioneddol o gau’r bwlch ar Y Bala cyn diwedd y tymor er mwyn cystadlu am safle awtomatig yn Ewrop.

Ers cyrraedd Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes yn 2013, mae’r Bala wedi llwyddo i gyrraedd y nod ar wyth achlysur, ond ar ôl methu’r gwch y tymor diwethaf bydd Colin Caton yn awyddus i ddychwelyd i Ewrop eleni.

Mae Caernarfon yn anelu i gyrraedd Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes, a gyda’r timau sydd o’u cwmpas yn stryffaglu yn ddiweddar, bydd y Caneris yn teimlo’n hyderus cyn y gemau ail gyfle.

Enillodd Caernarfon y gemau ail gyfle yn 2021/22, sef yr unig dymor ble nad oedd enillwyr y gemau ail gyfle yn cyrraedd Ewrop, ond yn hytrach yn camu i Gwpan Her yr Alban, ac felly mae’r Caneris yn dal i ysu am eu blas cyntaf o bêl-droed Ewropeaidd.

Dyw’r Bala heb golli dim un o’u naw gêm flaenorol yn erbyn Caernarfon (ennill 6, cyfartal 3), ac fe orffennodd hi’n 1-1 yn y ddwy gêm gynghrair rhwng y clybiau yn rhan gynta’r tymor.

Record cynghrair diweddar:

Y Bala: ✅✅❌➖✅

Caernarfon: ✅❌➖➖➖

 Y Chwech Isaf

Hwlffordd (7fed) v Pen-y-bont (8fed) | Nos Wener – 19:45

Yn y ras am y 7fed safle a lle yn y gemau ail gyfle, dim ond pedwar pwynt sy’n gwahanu Hwlffordd a Pen-y-bont, dau dîm sydd heb gael y canlyniadau gorau ers yr hollt.

Dyw Hwlffordd heb ennill dim un o’u pedair gêm yn y Chwech Isaf, gan gael tair gêm gyfartal yn olynol, tra bod Pen-y-bont heb ennill dim un o’u tair gêm ddiwethaf, a rheiny i gyd yn gemau cartref.

Hwlffordd oedd enillwyr y gemau ail gyfle y tymor diwethaf gyda’r Adar Gleision yn camu i Ewrop am y tro cyntaf ers 19 mlynedd a bydd Tony Pennock yn dyheu i gael ail-adrodd y gamp eleni.

Gorffennodd Pen-y-bont yn 3ydd llynedd gan gyrraedd Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes, ond dyw pethau’n sicr heb fynd cystal y tymor hwn gyda’r clwb yn ennill dim ond un o’u naw gêm gartref ddiwethaf.

Y tîm cartref sydd wedi ennill y bedair gêm gynghrair ddiwethaf rhwng y timau, a dyw Pen-y-bont heb ennill ar Ddôl y Bont ers Hydref 2020 pan sgoriodd y chwaraewr-reolwr, Rhys Griffiths ddwywaith (Hwl 0-4 Pen).

Record cynghrair diweddar:

Hwlffordd: ͏➖➖➖❌❌

Pen-y-bont: ❌➖➖✅❌

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos i’w weld ar S4C nos Lun.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.